fbpx
Swansea International Jazz Festival 2024
15 - 17 June

 
Mae De Cymru yn un o leoliadau treftadaeth mwyngloddio pwysicaf y DU, gyda haearn, copr a glo wrth galon y Cymoedd am ganrifoedd.
 

Ac yn 2018, gwahoddir y genedl gyfan i ddathlu a chofio’r hanes diwydiannol hwn gydag ymweliad gan y Man Engine eiconig.

Bydd y cawr o löwr yn ymweld ag wyth o leoliadau treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf de Cymru am wythnos o ddathliadau rhwng 8 – 12 Ebrill 2018 wedi’i animeiddio gan dîm o ddwsin a rhagor o ‘lowyr’

Mae’r ymweliad â Chymru’n rhan o Resurrection Tour 2018 y Man Engine, ble fydd y pyped 11.2m o daldra’n stemio’i ffordd o gwmpas rhai o safleoedd treftadaeth mwyngloddio mwyaf arwyddocaol y DU, gan gynnwys lleoliadau yng Nghernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf, Swydd Efrog, Swydd Amwythig a Swydd Derby.

Bydd y daith yn dod i ben ar 12 Ebrill, gydag arddangosfeydd llawn nostalgia yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe a gorymdaith drwy’r ddinas gan orffen yng ’Ngwaith Copr Hafod Morfa gyda’r nos

Bydd rhagor o wybodaeth a thocynnau ar gyfer yr wythnos o arddangosfeydd rhyfeddol ar gael ar wefan y Man Engine fis Ionawr.

Am fwy o wybodaeth am daith “Man Engine Cymru: dathlu diwydiant” neu’r stori y tu ôl i’r Man Engine rhyfeddol ewch i themanengine.co.uk.

Date
12 Apr 2018
Venue
National Waterfront Museum