fbpx
Sign up to the Admiral Swansea Bay 10k!
Sunday 15 Sep

Mae’r sioe hon, sy’n seiliedig ar y deuawdau a recordiwyd gan Ella Fitzgerald a Louis Armstrong ar dri albwm gyda’r Oscar Peterson Quartet ar ddiwedd y 1950au, yn cyflwyno’r caneuon eiconig hyn gan ddilyn y trefniannau gwreiddiol, ochr yn ochr â repertoire helaeth o ganeuon unigol y gwnaethant eu recordio a’u perfformio.

Gallwch ddisgwyl gwledd o gerddoriaeth yn y sioe hon a fydd yn cynnwys yr holl ffefrynnau o gyfnod cerddoriaeth swing, gan gynnwys cerddoriaeth cyfansoddwyr fel Cole Porter, Irving Berlin, Rodgers a Hart a George Gershwin, gyda chaneuon fel They Can’t Take That Away From Me, A Fine Romance, I Won’t Dance a Let’s Call The Whole Thing Off. Yn ogystal ag unawdau gan Ella a Louis, gan gynnwys Manhattan, My Funny Valentine, Love for Sale, Just One of Those Things, Hello Dolly a Wonderful World.

Daw Sarah Meek ag egni ifanc newydd i gerddoriaeth jazz gyda’i chyflwyniad pwerus ac amryddawn, ac mae ei phresenoldeb llwyfan difyr a gwybodaeth gerddorol eang yn golygu ei bod hi’n boblogaidd iawn gyda chynulleidfaoedd Cymru, y DU a thu hwnt. Yn wreiddiol o Swydd Gaer, mae Sarah bellach yn byw yng Nghaerdydd ers iddi orffen astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Fel un o gerddorion proffesiynol mwyaf profiadol ac amryddawn Cymru, mae Dave Cottle yn cyfuno’i ddoniau di-rif drwy ganu’r trwmped a’r piano (a hynny ar yr un pryd!) yn ogystal â chanu yn y sioe hynod ddifyr hon. Bydd Aidan Thorn (Bas Dwbl), Tom Cottle (Drymiau) a Gary Phillips (Gitâr) hefyd yn perfformio.

Date
26 Jun 2022
Venue
Theatr Dylan Thomas