fbpx
Enjoy Outdoor Attractions!
Find out more

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn Abertawe ar gyfer tymor newydd sbon llawn digwyddiadau. Bydd yn cynnwys cerddorion byd enwog a darnau anhygoel o gerddoriaeth a fydd yn gwefreiddio ac yn difyrru cynulleidfaoedd o bob oedran.

Enigma Variations – 12 Ebrill 2024

Rhaglen
Grace Williams Sea Sketches, William Mathias Concerto for Harp, Edward Elgar ‘Enigma’ Variations

Artistiaid

BBC National Orchestra of Wales, Tadaaki Otaka – Arweinydd, Catrin Finch – Y Delyn

Er bod Grace Williams wedi ysgrifennu ei morlun cerddorol hudolus, Sea Sketches, yn Llundain, cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan hiraeth am y môr yn y Barri. Mae Cymreictod pendant hefyd yn perthyn i Goncerto William Mathias i’r Delyn; gyda’r delyn yn cael ei chyflwyno i’r gynulleidfa fel offeryn cyfeiliant, gan adlewyrchu ei rôl draddodiadol yng ngherddoriaeth Cymru, cyn symud i safle mwy unawdol, a dyfynnu’r gân Gymreig Dadl Dau yn ei symudiad clo. I berfformio, rydyn ni’n falch iawn o groesawu Catrin Finch, telynores ffantastig o Gymru ac wyneb cyfarwydd iawn i BBC NOW.

Gan daro cydbwysedd rhwng yr ysgafn a’r uchelwrol, mae Enigma Variations gan Elgar yn gasgliad dyfeisgar o frasluniau cerddorol o’i ffrindiau a hunanbortread astrus – enigma wedi’i guddio o fewn y sgôr wrth i bob amrywiad gael ei dagio gyda llythrennau cyntaf llysenwau’r ffrindiau. I arwain rydyn ni’n falch iawn o gael estyn croeso unwaith eto i’r Arweinydd Llawryfog annwyl Tadaaki Otaka.

Tocynnau £12.00 – £20.00

Archebwch Docynnau

Bartok’s Concerto for Orchestra – 10 Mai 2024

Rhaglen
Caroline Shaw – The Observatory, Maurice Ravel – Concerto Piano yn G, Béla Bartók – Concerto i’r Gerddorfa

Perfformwyr
BBC National Orchestra of Wales, Giancarlo Guerrero – Arweinydd, Sergio Tiempo – piano

Cyfansoddwyr
Caroline Shaw, Maurice Ravel, Béla Bartók

Dyma’r tro cyntaf i waith Caroline Shaw, The Observatory, gael ei berfformio yn y DU. Gyda’i gyfuniad o ddryswch ac eglurder, blaendir a chefndir, yr ysbrydoliaeth ar gyfer y darn oedd ymweliad ag Arsyllfa Griffin ger Hollywood Bowl. Ynddo, mae’n archwilio ffyrdd newydd o edrych ar y bydysawd, gan asio’r hen a’r newydd mewn llif ymwybod nad yw byth yn dod i ben yn yr union le y dechreuodd.

Bydd concerto eiconig Ravel i’r piano, sy’n gyforiog o gyferbyniadau telynegol, alawon sionc a llinellau cymhleth cyfoethog i’r piano, yn cael ei berfformio gan y pianydd heb ei ail, Sergio Tiempo, wrth iddo ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW. Dathliad pur o gerddoriaeth a lliwiau offerynnau, I gloi’r rhaglen syfrdanol hon, cawn berfformiad o Goncerto Bartok i Gerddorfa, gyda’i adleisiau o gerddoriaeth werin, dan arweiniad Giancarlo Guerrero, yr arweinydd o Costa Rica sydd wedi ennill Gwobr Grammy.

Tocynnau £12.00 – £20.00

Archbwch Docynnau

Ryan Bancroft – arweinydd, Alisa Weilerstein – soddgrwth

Mae Alisa Weilerstein, yr offerynnydd soddgrwth byd-enwog, yn ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng nghyngerdd olaf y tymor ar gyfer un o goncerti soddgrwth mwyaf y byd. Wrth i Dvořák ail-fyw ei fywyd llawn mwynhad ond hefyd yn llawn colled, disgleiria arbenigedd alawol, egni bywiog a chariad at gerddoriaeth gwerin ei famwlad yn ei goncerto soddgrwth rhagorol. Yn yr un modd, mae dyfeisiadau cerddorol greddfol, offeryniaeth gyfoethog, ac archwiliad o’r gadeirlan “fel drws symbolaidd i mewn ac allan o’r byd hwn” yn llwyfan ar gyfer awyrgylch breuddwydiol, synfyfyriol, arallfydol. Mae hyn yn ymledu drwy waith medrus Higdon o daith sonig drwy ofod cysegredig ac i fyny i’r nefoedd – Blue Cathedral.

Dychmygwch hyn – Tachwedd 1934, yn Neuadd Carnegie a symffoni newydd sbon yn cael ei chyflwyno, gan dderbyn cymeradwyaeth frwd a llawer o bobl yn moesymgrymu i’r cyfansoddwr diymhongar. Y cyfansoddwr hwnnw oedd William Dawson, Americanwr Affricanaidd 35 oed, a oedd wedi ffoi o’i gartref yn 13 oed er mwyn gwireddu ei freuddwyd o astudio cerddoriaeth; a’r darn oedd… y Negro Folk Symphony. Dechreuodd Dawson gyfansoddi cerddoriaeth synhwyrus a gonest a oedd “yn sicr ddim yn waith gan ddyn gwyn” a chafodd ei ysbrydoli gan “gerddoriaeth werin negroaidd” pan oedd yn blentyn bach. Mae’r symffoni hon, sydd wedi’i llunio’n fedrus ac yn llawn emosiwn, yn athrylith pur, a phwy well i arwain y diweddglo cyffrous hwn i’r tymor na’n Prif Arweinydd, Ryan Bancroft.

Tocynnau £12.00 – £20.00

Archebwch Docynnau