fbpx
Sign up to the Admiral Swansea Bay 10k!
Sunday 15 Sep

Ynghyd â gwesteion arbennig: YOU ME AT SIX, FEEDER ac YONAKA

Gofynion mynediad i gyngherddau COVID-19

Mae Catfish and the Bottlemen wedi cyhoeddi eu sioe fwyaf yng Nghymru hyd yma, ym Mharc Singleton Abertawe. Mae hyn yn dilyn eu sioe gwych y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer yng Nghastell Caerdydd ac Arena Motorpoint yn ystod y 18 mis diwethaf.

Bydd y band roc/pync-pop 4 aelod dawnus o Surrey sef You Me At Six yn chwarae traciau o’i halbwm poblogaidd a gyrhaeddodd rhif 1 sef ‘Cavalier Youth’ a phum albwm aur ardystiedig arall gan gynnwys  ‘Night People’ o 2017 a ‘VI’ o 2018. Bydd y rocwyr indi o Gymru, Feeder, a fydd yn dod â’u hanthemau y gellir cyd-ganu iddynt i Barc Singleton a’r band roc-pop o Brighton, YONAKA yn cwblhau’r rhestr o berfformwyr.

Cwestiynau Cyffredin gyngherddau
gwybodaeth a theithio

Prynu tocynnau

Does dim cartref sefydlog gan y gan y rocwyr amgen, Catfish and the Bottlemen, sy’n hanu o arfordir gogledd Cymru, am eu bod wedi bod ar daith yn gyson ers 2014. Mae’r siwrnai wedi parhau’n ddi-dor yn 2019 am eu bod wedi cwblhau cynifer â phum taith o’r Unol Daleithiau yn ystod y flwyddyn, ynghyd â thair taith o Awstralia a thir mawr Ewrop a 3 taith arena yn y DU. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer 2020, gyda chyhoeddiadau am wyliau’r haf yn dechrau ymddangos.  Rhyddhawyd eu trydydd albwm clodfawr, The Balance, ar ddechrau haf 2019 ac mae wedi ychwanegu llond gwlad o ddeunydd cyffrous newydd at eu set fyw hynod gyffrous. Enillodd albwm cyntaf y band, The Balcony, statws platinwm yn y DU a dilynwyd hwn yn 2016 gan ail albwm sef The Ride a gyflwynodd y ffefrynnau byw 7 a Soundcheck. Ffrydiwyd caneuon y band 1 biliwn o weithiau hyd yn hyn. Canolbwynt dynamig a magnetig Catfish and the Bottlemen yw eu dyn blaen, Van McCann, ac mae’n un rheswm y cânt eu disgrifio fel un o’r bandiau byw gorau sydd wedi dod o’r DU y ganrif hon. Nid oes unrhyw fand roc amgen arall o’r DU sydd wedi dod i’r brig yn ystod y degawd hwn wedi cael cymaint o glod a llwyddiant rhyngwladol.

Dyma aelodau Catfish and the Bottlemen: Van McCann (lleisau, gitarau), Johnny Bond (gitarau), Robert ‘Bob’ Hall (drymiau) a Benji Blakeway (gitâr fas).

Date
04 Sep 2021
Venue
Parc Singleton