fbpx

Beicio ym Mae Abertawe

Share

Paratowch i fynd ar eich beic. Mae gan Fae Abertawe ddigon o lwybrau beicio heb draffig ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a’r Llwybr Celtaidd. Ymlaciwch gyda thaith feicio ar hyd y prom, ac os oes yn well gennych rhywbeth sy’n llawn adrenalin – ewch tua’r bryniau! Mae gan Gwm Afan a Chwm Nedd enw byd-eang am feicio mynydd. Mae llwybrau sy’n addas i bawb. Gall teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i feicio fynd ar y llwybrau gwyrdd, maent yn dal i fod yn heriol – ac mae’r golygfeydd yn ddigon i gipio’ch anadl (yn hytrach na’r daith feicio). Neu Rhwydwaith Beicio Oddi ar y Ffordd Gŵyr.

Cycle Routes in Swansea Bay

Beic? Oes! Helmed? Oes! Ewch ar eich beic am daith 5 milltir ar hyd promenâd Bae Abertawe. Beth am feicio o ganol y ddinas i’r Mwmbwls a chael hufen iâ wedi i chi gyrraedd. Maent yn dweud ei fod ymysg y gorau yn y byd. Mae beicio ar hyd y bae’n weithgaredd gwych ar gyfer diwrnod o haf gyda nifer o gaffis yn edrych dros y môr!

Gallwch hefyd feicio ar rai ffyrdd tawelach ar lwybr beicio gogledd Gŵyr. Edrychwch ar y golygfeydd godidog (cofiwch eich camera!) Am feicio hamddenol, heb draffig, mae Taith y Tawe’n ddelfrydol. Mae ychydig dros 6 milltir ac mae’n llwybr gwych i deuluoedd. Os hoffech fynd am dro ar hyd y traeth, yna Ger y Môr yw’r llwybr i chi. Mae’n gorffen yn y Mwmbwls lle gallwch fynd i’r dŵr i oeri, neu efallai fwyta rhywbeth melys? Dyma daith hamddenol, ond mae’n gyfanswm o 10 milltir. Mae’n werth yr ymdrech.

Female cyclist

Yn galw ar y rhai sy’n hoff o adrenalin! Dewch i feistroli llwybrau troellog, creigiog a gwyllt Parc Coedwig Afan. Dewiswyd y llwybrau ymysg y ’10 lle gorau yn y byd i feicio’ gan gylchgrawn Mountain Bike, mae’r lle hwn yn un y mae’n rhaid i chi ymweld ag ef!  Mae gan Barc Coedwig Afan dros 100km o lwybrau disgyn, sengl, heriol, ardaloedd dringo heriol a golygfeydd trawiadol dros Gymoedd De Cymru. Gallwch hurio’r holl gyfarpar yn y ganolfan ymwelwyr, felly ‘sdim esgus -bant â chi!

Rhwydwaith Beicio Oddi ar y Ffordd Gŵyr

Beic

Ffordd newydd o ddarganfod Gŵyr! Dewch i gael ymarfer corff gwych, mwynhau’r awyr iach a gweld arfordir a chefn gwlad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU ar yr un pryd!

Mae 27km o lwybrau i’w harchwilio sy’n dilyn llwybrau ceffyl hynafol gyda thri bryn i’w dringo yng Ngŵyr, Twyni Rhosili, Twyn Hardings a Bryn Llanmadog – allwch chi ddringo pob un?

Mae’r llwybr oddi ar y ffordd yn cynnig traciau pridd yn bennaf gyda rhai arwynebau metlin ond anwastad – bydd yr amodau’n amrywio yn dibynnu ar y tymor a’r tywydd – felly cofiwch fynd â’r beic, yr offer a’r dillad cywir ar gyfer yr amodau.

Mae’r rhwydwaith yn llwybr a rennir ac mae’n bosib y bydd beicwyr yn dod ar draws cerddwyr a marchogion – sylwer bod y gyfraith yn nodi bod yn rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogion ar lwybrau ceffylau. Yn ffodus, mae digon o benrhyn Gŵyr i bawb!

Lawrlwythwch ein taflen sy’n cynnig cyngor ac awgrymiadau gwych ar gyfer beicio ar lwybrau ceffyl yn ogystal â map i’ch helpu i drefnu’ch llwybr yn ddiogel.

Ydych chi’n barod am antur oddi ar y ffordd?

Mae Abertawe yn ddinas sy’n croesawu beiciau. Mae rheslau beiciau diogel ar gael ar draws y ddinas ac mae gan lawer o westai a gwelyau a brecwast wobrau ‘Croesawu Beiciwyr’.