fbpx
Sign up to the Admiral Swansea Bay 10k!
Sunday 15 Sep

Y diweddaraf am Coronafeirws

Yn sgîl newidiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru i ddeddfwriaeth COVID, rydym yn hynod siomedig i’ch hysbysu fod pantomeim Snow White wedi’i ganslo o ddydd Sul 26 Rhagfyr 2021.

Bydd yr holl docynnau o’r dyddiad hwn yn cael eu had-dalu’n awtomatig i’r dull talu gwreiddiol dros yr ychydig ddiwrnodau nesaf. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni yn Swansea.grandreservations@abertawe.gov.uk

Mae tocynnau ar gael ar gyfer pantomeim y flwyddyn nesaf sef Beauty and the Beast sy’n rhedeg o ddydd Mercher 14 Rhagfyr 2022 i ddydd Sul 15 Ionawr 2023. Gellir prynu’r rhain yn uniongyrchol o’n Swyddfa Docynnau neu drwy ein gwefan yn www.grandabertawe.co.uk


Gyda thros 30,000 o bobl yn gwylio pantomeim Theatr y Grand Abertawe bob Nadolig, nid yw byth yn rhy gynnar i brynu tocyn ar gyfer sioe’r flwyddyn nesaf!

Daw Snow White and the Seven Dwarfs yn fyw ar y llwyfan gyda sioe llawn comedi, caneuon anhygoel, dawnsfeydd, gwisgoedd gwych a setiau syfrdanol. Gyda drych hudol, saith corrach cyfeillgar, tywysoges dlos, tywysog golygus a chyfranogiad gan y gynulleidfa hefyd, byddwn yn trechu’r Frenhines Ddrwg ac yn sicrhau bod cariad yn ennill y dydd yn y perfformiad Nadoligaidd hwn i bob oedran.

Drych, drych ar y wal, nid oes unrhyw bantomeim sydd cystal!

Date
10-24 Dec
Venue
Swansea Grand Theatre