fbpx

*Digwyddiad wedi’i ohirio*

Yn dilyn y cyngor diweddar gan y llywodraeth, mae’r lleoliad hwn ar gau dros dro. O ganlyniad, y digwyddiad hwn wedi’i ohirio. Cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.


Nos Sadwrn 23 Mai 7.30pm

Bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn eich gyrru yn ôl i’r ysgol yr haf hwn gyda chynhyrchiad newydd o opera gomig Mozart Cosí fan tutteYsgol Gariad. Wedi ei gosod yn yr 1970au cynnar, mae pedwar disgybl y chweched dosbarth yn canfod bod cariad yn gallu bod yn anhygoel, yn ddramatig, lletchwith a chymhleth yn y stori aeddfedu hon.

Mae’r myfyrwyr yn cael gwers werthfawr mewn cariad, bywyd a rhyddid wrth iddynt gael eu cynnwys mewn arbrawf cyfrinachol gan eu hathro. Maent yn cael eu herio i ail-feddwl eu perthnasau gyda’i gilydd a’u hunaniaethau cyfan wrth iddynt wynebu cyfres o sefyllfaoedd digrif sydd wedi eu dylunio i dwyllo.

Cenir yn Saesneg

Prynu tocynnau

 

Date
23 May 2020
Venue
Taliesin Arts Centre