Efallai fod coronafeirws wedi gorfodi’r Glynn Vivian i gaei ei drysau, ond mae’r oriel wedi mynd ar-lein i ddod ag artistiaid a haneswyr diwylliannol o bob cwr o’r byd at ei gilydd.
Mae’r Glynn Vivian yn cynnal cyfres o seminarau ar-lein â’r nod o amlygu a chryfhau’r berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a’r isgyfandir Indiaidd, sy’n denu sylw’n fyd-eang.
Arweinir y gyfres, “Imperial Subjects: (Post)colonial conversations between South Asia and Wales”, gan dderbynnydd bwrsariaeth y British Art Network, Oriel Gelf Glynn Vivian, a Dr Zehra Jumabhoy, hanesydd celf De Asiaidd sy’n ddarlithydd cyswllt yn Sefydliad Celf Courtauld Llundain ar hyn o bryd.
Bwriedid cynnal y gyfres yn wreiddiol yn yr oriel yn ystod mis Ebrill a mis Mai. Fodd bynnag, ers cychwyn y cyfyngiadau symud i reoli ymlediad coronafeirws, mae tîm yr oriel wedi addasu’r seminarau i’w cyflwyno ar ffurf ddigidol drwy’r gwasanaeth cynadledda dros fideo, Zoom.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Yn ystod y cyfnod heriol hwn mae’n bwysig i Abertawe gynnal ei chysylltiadau; mae’n ymddangos bod y fenter hon yn ffordd wych o wneud hyn.
“Mae pobl yn croesawu llwyfannau digidol yn fwy nag erioed felly mae’r cynllun hwn gan Oriel Glynn Vivian yn caniatáu i lawer o bobl brofi digwyddiadau na fyddant wedi bod yn rhan ohonynt o’r blaen.
“Mae’n agor drysau i ffyrdd newydd o weithio i’r oriel ac yn dangos bod ei staff, fel holl bersonél y cyngor, yma i Abertawe.”
Bydd y pedwar seminar, sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys:
Gallwch gael manylion llawn y seminarau a dolenni i archebu tocynnau ar dudalen Facebook y Glynn Vivian.
I ddarllen y datganiad newyddion llawn ewch i abertawe.gov.uk.