fbpx

 
Mae’r Ŵyl Gwrw yn golygu llawer mwy na chwrw’n unig! Dros benwythnos hir, gallwch gael llawer o hwyl a bod yn rhan o awyrgylch gwych i’r teulu cyfan.
Byddwch yn darganfod Pentref Almaenaidd gyda chabanau pren sy’n gwerthu bach o bopeth, o Bratwurst i gynnyrch Almaenaidd dilys. Yn yr ardd gwrw awyr agored gallwch fwynhau stein gyda’n 3 chwrw Almaenaidd i’w blasu.

Yn y nos, dylech ddod i’r babell ŵyl Fafaraidd sy’n cynnwys sioe DJ Almaenaidd, llawr dawnsio a gweinyddion sy’n gwisgo llodrau lledr a dirndl. Wrth eistedd ar y rhesi hir o feinciau traddodiadol gallwch fwynhau cwrw a golwyth cig llo – gwelwn ni chi’n fuan!

Oriau agor:
• Nos Wener 27 Ebrill: 4pm – 11pm
• Dydd Sadwrn 28 Ebrill: 11am – 11pm
• Dydd Sul 29 Ebrill: 12.30pm – 7.30pm

Gardd Gwrw
Mwynhewch gwrw Bafaraidd ffres yng ngwres yr haul. Eisteddwch yn ein gardd a mwynhewch y teimlad o eistedd yn yr Alpau am awr neu ddwy – yn y cefndir gallwch glywed cerddoriaeth Oompah. Galwch heibio am amser gwych!

Bwyd Almaenaidd
Yn y nos, dylech ddod i’r babell ŵyl Fafaraidd sy’n cynnwys sioe DJ Almaenaidd, llawr dawnsio a gweinyddion sy’n gwisgo llodrau lledr a dirndl. Wrth eistedd ar y rhesi hir o feinciau traddodiadol gallwch fwynhau cwrw a golwyth cig llo – gwelwn ni chi’n fuan!
Bavarian FestTent
In the evening (and Sat. afternoon), you should try the world famous Bavarian way of party. Our DJ Show makes you dance on the benches or on our dance floor. Enjoy the steins while you sing along to Anton aus Tirol or 500 miles. Bring your friends, colleagues or customers and book a ticket for a night out.

Tocynnau
Mae’r Ŵyl Gwrw Almaenaidd yn cynnwys sawl ardal wahanol. Gallwch gael mynediad am ddim i’r rhan fwyaf ohonynt heb docyn. Rhaid prynu tocyn ar gyfer y Babell Ŵyl Fafaraidd ac mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch eich tocynnau nawr!
Gŵyl Gwrw:

Mynediad Cyffredinol am Ddim: gan gynnwys mynediad i’r digwyddiad, y Pentref Almaenaidd a’r Ardd Gwrw, ac eithrio’r Babell Ŵyl Fafaraidd

Pabell Ŵyl Fafaraidd (Argaeledd Cyfyngedig):
Tocyn Pabell Arbennig Cyfyngedig £5-6: yn cynnwys sedd gadw yn y Babell Ŵyl Fafaraidd (seddi gyda’i gilydd)
Tocyn Cwrw £25-30: yn cynnwys sedd gadw yn y Babell Ŵyl Fafaraidd (seddi gyda’i gilydd), un stein (2 beint) o Gwrw’r Ŵyl a phlât blasus o fwyd gyda Schnitzel a salad tatws Almaenaidd ac Underberg (digestif). Gyda thocyn gallwch gael mynediad i ran y digwyddiad sydd am ddim hefyd.
Tocyn VIP £35-40: yn cynnwys mynediad VIP blaenoriaeth a sedd gadw yn ardal VIP y Babell Ŵyl Fafaraidd gydag 1 gwydraid o Schlumberger sekt, dau Stein (2 beint) o gwrw (gallwch ddewis o Weißbier Bafaraidd, Festbier Bafaraidd neu Craftbier Bafaraidd), plât blasus o fwyd gyda Schnitzel a salad tatws Almaenaidd ac Underberg (digestif). Gyda thocyn gallwch gael mynediad i ran y digwyddiad sydd am ddim hefyd.

Date
27-29 Apr
Venue
Museum Park