fbpx

Gyda bwyd, cerddoriaeth a gemau, mae Gŵyl yr Arglwyddes Wen yn cynnig penwythnos llawn adloniant i’r teulu cyfan.

Bydd cerddoriaeth a pherfformiadau gan fandiau a pherfformwyr megis Abba’s Angels a The Curious nos Wener a nos Sadwrn – a bydd mwy’n cael ei gyhoeddi! Ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf, cynhelir y gystadleuaeth wallgof, “It’s a knockout!” yn y prynhawn – felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi a’ch tîm yn hyfforddi! Daw’r penwythnos i ben gyda pherfformiad gan Gerddorfa Gŵyl Cymru ar nos Sul, gyda chyngerdd Proms sy’n cynnwys cerddoriaeth o rai o’ch hoff ffilmiau.

Pris Mynediad:

Gweithgareddau dydd o 12.00pm i 6.00pm – Am ddim
Perfformiadau’r hwyr 7.00pm – 10.30pm:

Dydd Gwener a dydd Sadwrn:

Safonol – £10: Consesiynau – £8 (Dan 18/Pobl hŷn/*Myfyrwyr – gyda dogfennaeth adnabod ddilys)

Dydd Sul:

Safonol – £7, Consesiynau £5 (Dan 18/Pobl hŷn/*Myfyrwyr – gyda dogfennaeth adnabod ddilys)

Gellir prynu tocynnau ar gyfer perfformiadau’r hwyr yn mumbles.gov.uk, yn bersonol yn swyddfa Cyngor Cymuned y Mwmbwls (rhwng 9.00am a 5.00pm) neu’n bersonol/dros y ffôn yn Theatr y Grand Abertawe (01792 475715)

Tocynnau
 

Date
27-29 Jul
Venue
Oystermouth Castle