fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Mae uchafbwyntiau’r llwybr hwn yn cynnwys Twyni Whiteford, Eglwys Llanmadog a golygfeydd gwych o Foryd Llwchwr.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Dechrau a Gorffen: Safle bws yn Llanmadog.
Pellter/amser: Oddeutu 2 1/4 milltir, 1-2 awr.
Natur y tir: Mae arwyneb y tir yn amrywio o galed a llyfn i feddal ac anwastad. Mae 2 gât fochyn a heol serth ond nid oes unrhyw gamfeydd.
Byddwch yn barod: Gwisgwch ddillad ac esgidiau sy’n addas ar gyfer yr amodau a’r tymor.
Lluniaeth: Tafarn a siop gymunedol yn Llanmadog.
Toiledau Cyhoeddus: Dim.

Map o’r Llwybr

Os yw’r daith gerdded hon yn apelio atoch, beth am lawrlwytho’r arweiniad llwybrau cerdded bychan gwych hwn. Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Dinas a Sir Abertawe sydd wedi’i lunio, a bydd yn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: