fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

The Tyranny of Consciousness (2017), gan y gwneuthurwr ffilmiau a’r artist fideos arloesol, Charles Atlas, yn cynnwys gosodiad pum sianel gyda mosäig sy’n dangos 44 machlud haul gwahanol ar yr un pryd, yn ogystal â sgrîn sy’n dangos ôl-gyfrifiad i dywyllwch. Mae hefyd yn cynnwys llais y perfformiwr drag enwog o Efrog Newydd, Lady Bunny, sy’n siarad am heddwch, bywyd gyda’n gilydd a pham nad oes neb yn gofyn y cwestiynau cywir ym myd gwleidyddiaeth yr UDA.

Mae gwaith Charles Atlas wedi cyfuno dawnsio, perfformio a chyfryngau am bron pedwar degawd, a dangoswyd The Tyranny of Consciousness (2017) am y tro cyntaf yn ystod Biannale Fenis yn 2017, lle enillodd glod arbennig.

Rhaglennwyd y gyfres hon mewn partneriaeth â Pride Abertawe a Mis Hanes LGBT ac fe’i cefnogwyd yn hael gan Art Fund, Cyfeillion Oriel Glynn Vivian a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Date
19 Sep - 29 Nov
Venue
Glynn Vivian Art Gallery