Caiff Gorymdaith y Nadolig Rithwir hudol ei dangos ar dudalen Facebook Joio Bae Abertawe a sianel YouTube nos Sul, 15 Tachwedd a bydd Marchnad y Nadolig draddodiadol a fydd yn cynnig amrywiaeth o roddion Nadolig, danteithion, bwyd a diod ar Oxford Street a’r cyffiniau o ddydd Gwener 27 Tachwedd.
Mae pawb yn dwlu ar Orymdaith y Nadolig flynyddol Abertawe ac er nad oes modd ei chynnal eleni, mae gennym ni rywbeth sydd bron cystal – Gorymdaith y Nadolig Rithwir.
Nos Sul 15 Tachwedd, ymunoch chi â ni i edrych yn ôl ar Orymdaith y Nadolig anhygoel Abertawe yn 2019. Fe wylion ni wrth i’r holl grwpiau cymunedol, cerddorion, bandiau, archarwyr, tywysogesau, cerbydau sioe a thân gwyllt ddod â hwyl yr ŵyl i Abertawe, a gwelsom oleuadau hudol y Nadolig yn cael eu cynnau hefyd!
Golloch chi hyn, neu hoffech chi weld y cyfan eto? Mae hi ar gael yn llawn ar ein tudalen Facebook neu ar lein!
Yn chwilio am anrheg Nadolig unigryw? Yna ewch i ganol dinas Abertawe a Marchnad y Nadolig ar Oxford Street o 27 Tachwedd. Bydd crefftwyr dawnus a masnachwyr traddodiadol yn aros yno i’ch helpu i ddod o hyd i’r anrhegion arbennig hynny i deulu a ffrindiau. Bydd danteithion i’ch temtio ac ar ôl i chi gael llond eich bol o siopa, beth am alw heibio’r gril Almaenaidd traddodiadol?
A bydd llawer o weithgareddau y gallwch eu gwneud a’u mwynhau #Gartref gyda’n Calendr Adfent Gweithgareddau.