Yn dwlu ar Fae Abertawe? Ydych chi am weld rhagor o’r Mwmbwls? Yn meddwl bod Gŵyr yn odidog?
Os ydych chi a’ch teulu wedi colli’r cyfle i gael gwyliau neu seibiant byr ym Mae Abertawe eleni neu os hoffech gael rhywbeth i’ch atgoffa o’ch ymweliad – yna lapiwch ychydig o hud y gwyliau fel anrheg!
…a threfnu’r cyfan wrth i chi fwynhau paned ar eich soffa!
Gallwch ddewis o ddanteithion blasus Gŵyr, taleb ar gyfer un o’ch hoff fwytai neu drefnu’ch profiad rhodd eich hun ar gyfer gwyliau yn y dyfodol neu seibiant byr i’r person arbennig hwnnw yn eich bywyd.
Mae tair ffordd i roi rhodd i’w chofio … rhoddion drwy’r post, talebau anrhegion neu brofiad arbennig… gallwch ddarganfod sut isod!*
*Ym Mae Abertawe rydym am sicrhau eich bod chi a derbynnydd eich anrheg yn hapus gyda’ch dewis – felly sicrhewch eich bod chi’n gwbl ymwybodol o’r amodau a thelerau, yr amodau canslo a’r dyddiadau dod i ben sydd ynghlwm â’r talebau anrheg a phrofiadau cyn i chi brynu.