Mae Llwybr Cerdded Glynhir yn mynd trwy’r dref a chefn gwlad. Gallwch fwynhau archwilio pentref Pontarddulais a golygfeydd gwych o ben y bryn.
Graddio’r Daith Gerdded: | Hawdd. |
Math o lwybr: | Crwn. |
Yn addas ar gyfer: | Pawb. |
Natur y tir: | Tir amrywiol gan gynnwys strydoedd preswyl, ffyrdd, llwybrau a llwybrau garw.
Dechrau a gorffen: Prif ffordd yr A48 lle mae’n cwrdd â’r fynedfa i Orsaf Drenau Pontarddulais ar y bont dros afon Llwchwr. |
Pellter y daith: | Tua 4 milltir (6km). |
Amser cyfartalog: | 2.5 awr. |
Cludiant Cyhoeddus: Oes
Mannau parcio ceir: Yng Ngorsaf Drenau Pontarddulais ac yng nghanol y pentref o fewn pellter cerdded byr.
Lluniaeth: Mae amrywiaeth o gaffis a thafarndai ar y llwybr ar gyfer lluniaeth.
Toiledau cyhoeddus: yng nghanol y pentref.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.
Mae rhannau o’r llwybr ar hyd lan yr afon, a gall fod yn fwdlyd ac yn llithrig yno.
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: