Dewch i fwynhau tirweddau gwledig mwyaf dilychwin Abertawe. Mae’r gylchdaith dair milltir a hanner hon, gyda’i golygfeydd ysblennydd tua Gŵyr a Bannau Brycheiniog, yn un o dirweddau gwledig mwyaf naturiol Abertawe.
Mae’r llwybr yn mynd trwy olion archaeolegol a’r enghraifft orau o rostir sych yr ucheldir sydd ar ôl yn ardal Abertawe – fe’i dynodir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Graig Fawr.
Graddio’r Daith Gerdded: Hawdd.
Math o lwybr: Cylchdaith.
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: