fbpx

Trefnwch eich ymweliad am ddim

Bydd angen i bob ymwelydd â’r amgueddfa archebu tocyn mynediad am ddim CYN cyrraedd. Nid ydym yn caniatáu i bobl alw heibio ar hyn o bryd. Ni chaniateir mwy na deg person ar gyfer pob slot amser o hanner awr.

Er mwyn archebu tocyn, bydd angen i chi gael cyfrif Swyddfa Docynnau Abertawe. Os ydych eisoes wedi archebu tocynnau yn lleoliadau Cyngor Abertawe, fel Neuadd Brangwyn, Theatr y Grand neu Oriel Gelf Glynn Vivian, bydd gennych gyfrif eisoes.

Os nad oes gennych gyfrif, gofynnir i chi sefydlu cyfrif pan fyddwch yn dewis eich tocynnau.

Unwaith y byddwch wedi trefnu’ch ymweliad, byddwch yn derbyn ‘e-bost cadarnhau’ gan CadwLleGrand.Abertawe, gyda’r teitl Cadarnhad o’ch archeb gan Swyddfa Docynnau Abertawe.

Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech ddod â chadarnhad o’ch archeb pan fyddwch yn cyrraedd, er na fydd hyn yn angenrheidiol.

Cyrraedd yr Amgueddfa

Os byddwch chi’n teimlo’n sâl yn sydyn, os bydd gennych dymheredd neu beswch parhaus neu os ydych yn colli blas, neu os yw hyn yn digwydd i aelod o’ch aelwyd – arhoswch gartref. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sydd wedi profi’n bositif am COVID-19 neu y mae’r gwasanaeth Profi Olrhain a Diogelu wedi cysylltu ag e’.

Peidiwch â chyrraedd yn gynt na 5 munud cyn amser eich tocyn a chofrestrwch yn ein derbynfa cyn mwynhau’r oriel. Gofynnir i chi am enw’r person a archebodd y tocynnau fel y gallwn gadarnhau eich bod wedi cyrraedd. Os bydd angen mynediad gwastad arnoch, ceir mynediad gwastad ar ochr yr amgueddfa.

Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn yr amgueddfa. Mae’r rheini sydd dan 11 oed neu sydd â chyflwr meddygol sy’n eu hatal rhag gwisgo gorchudd wyneb wedi’u heithrio rhag gorfod gwneud hyn.

Defnyddiwch y gorsafoedd diheintio dwylo wrth y fynedfa pan fyddwch yn cyrraedd, yn ystod eich ymweliad ac wrth i chi adael yr amgueddfa.

Cadwch 2 fetr i ffwrdd o ymwelwyr eraill ac aelodau staff.

Os hoffech brynu eitem yn ein siop, talwch â cherdyn digyffwrdd. Os nad yw hyn yn bosib, diheintiwch eich dwylo cyn ac ar ôl talu.

Am ragor o wybodaeth am y mesurau diogelwch rydym wedi’u rhoi ar waith neu i drafod eich ymweliad, e-bostiwch ni yn Amgueddfa.abertawe@abertawe.gov.uk.

Date
08 Jun - 26 Sep
Venue
Swansea Museum