Rydym yn gofyn i’n holl ymwelwyr archebu eu tocynnau AM DDIM ymlaen llaw ar gyfer slot amser dyranedig. Ni chaniateir i fwy na chwech pherson fynd i mewn i’r Oriel bob 20 munud, fel y gallwn sicrhau ei bod hi’n bosib dilyn mesurau cadw pellter.
Gellir archebu yma. Os nad ydych yn gallu archebu’ch tocyn ar-lein, ffoniwch yr Oriel ar 01792 516900 a gall aelod o staff drefnu ar eich cyfer. Gallwch hefyd ymweld â’r Oriel drwy’r ardd er mwyn cadw lle yn bersonol.
Sylwer: Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Gyngor Abertawe ac felly mae system archebu’r Oriel yn rhan o Swyddfa Docynnau Abertawe, yn ogystal â lleoliadau diwylliannol gan gynnwys Theatr y Grand Abertawe a Neuadd Brangwyn. Trwy ddewis eich tocyn isod, eir â chi i wedudalen Swyddfa Docynnau Theatr y Grand Abertawe. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw e-byst neu wybodaeth farchnata ar gyfer unrhyw un o leoliadau’r cyngor oni bai eich bod wedi dewis hynny.
NI FYDD ANGEN I CHI ARGRAFFU TOCYN. Caiff manylion eich archeb eu cadw a bydd aelod o dîm yr Oriel yn gofyn am eich enw wrth i chi gyrraedd.
Unwaith y byddwch wedi trefnu’ch ymweliad, byddwch yn derbyn ‘e-bost cadarnhau’ gan CadwLleGrand.Abertawe, gyda’r teitl Cadarnhad o’ch archeb gan Swyddfa Docynnau Abertawe.
Trefnwch eich ymweliad wedi’i amseru yma. Caiff dyddiadau newydd eu rhyddhau bob pythefnos wrth i ni barhau i fonitro’n gwasanaeth.