fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

 7:30 pm – 10:00 pm

Enwyd Syr Ranulph Fiennes fel ‘fforiwr gorau’r byd’ gan Lyfr Recordiau Byd Guinness, ac mae wedi treulio ei oes yn chwilio am antur eithafol, gan beryglu ei fywyd mewn rhai o’r alldeithiau preifat, mwyaf uchelgeisiol a gynhaliwyd erioed.

Ymhlith nifer o’i gyflawniadau niferus a dorrodd sawl record, ef oedd y cyntaf i gyrraedd y ddau begwn, y cyntaf i groesi Cefnfor yr Antarctig a Chefnfor yr Arctig, a’r cyntaf i amfordwyo’r byd ar hyd ei echel begynol.

Yn Living Dangerously, mae Syr Ranulph yn cynnig taith bersonol drwy ei fywyd, o’i flynyddoedd cynnar hyd heddiw. Yn ysgafngalon ac yn hynod deimladwy, mae’r sioe’n olrhain plentyndod a cham-ymddygiadau ysgol Syr Ranulph, ei fywyd yn y fyddin a’i alldeithiau cynnar, hyd at Alldaith Traws-ddaear a’i Her Fyd-eang gyfredol – ei uchelgais i fod y person cyntaf yn y byd i groesi’r ddau begwn iâ a dringo’r mynydd uchaf ar bob un o’r saith cyfandir.

Mae anturiaethau niferus Syr Ranulph Fiennes wedi gwthio’i lefelau gwytnwch i’r eithaf, gan ysbrydoli cenedlaethau ac yn sicrhau ei le fel arloeswr y byd fforio sydd â stori unigryw i’w hadrodd.

Tocynnau: £29.50 – £34.50

Date
15 Feb 2022
Venue
Neuadd Brangwyn