Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2021 yn ddathliad o ddarllen, natur a gweithredu ar gyfer yr amgylchedd a bydd yn cyfuno mynediad am ddim at lyfrau gyda gweithgareddau hwyl, creadigol yn ystod gwyliau’r haf.
Wedi’i datblygu mewn partneriaeth â WWF, sefydliad cadwraeth annibynnol arweiniol y byd, bydd Arwyr y Byd Gwyllt yn ysbrydoli plant i gefnogi dyfodol ein planed.
Mae’r sialens wedi’i gosod mewn lle ffuglennol o’r enw Trewylltach, lle mae chwe phreswylydd ifanc wedi dechrau sylwi ar broblemau amgylcheddol yn eu hardal. Ar y dechrau, mae’n teimlo fel na allant wneud unrhyw beth i helpu, ond wrth weithio gyda’i gilydd, maen nhw’n darganfod, wrth fod yn unedig, fod ganddynt y pŵer i wneud Trewylltach yn lle i bobl a natur ffynnu.
Canolbwynt Sialens Ddarllen yr Haf yw plant yn dewis a rhannu llyfrau o’u dewis, mewn unrhyw fformat. Mae nofelau, llyfrau ffeithiau, llyfrau lluniau, nofelau graffig, llyfrau jôcs, e-Lyfrau ac e-Lyfrau llafar yn cyfri tuag at gwblhau’r sialens.
Daw Arwyr y Byd Gwyllt yn fyw gyda gwaith celf pwrpasol gan y darlunydd enwog i blant, Heath McKenzie.
Cofrestrwch ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf
Darganfyddwch ragor am eich llyfrgell leol