fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

Lansio Gwyl Dylan Thomas ddydd Sadwrn


C 23rd October 2013

Mae gohebwyr pêl-droed enwog, nofelwyr o safon ryngwladol a Daleks o Doctor Who ymysg nodweddion Gwyl Dylan Thomas eleni.

DT_Centre_1

Dylan Thomas Centre

Yr wyl, a fydd yn para o ddydd Sadwrn nesaf (26 Hydref) tan ddydd Sadwrn 9 Tachwedd, fydd yr olaf cyn dathliadau ledled Cymru y flwyddyn nesaf i nodi canmlwyddiant genedigaeth y bardd.

 

Bydd yr wyl eleni, a gynhelir yng Nghanolfan Dylan Thomas y disgwylir iddi ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r byd, yn dechrau gyda Roger McGough, bardd, darlledwr ac awdur llyfrau plant, a fydd yn darllen o’i gasgliad newydd o farddoniaeth.

Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am yr wyl. Bydd y digwyddiad eleni hefyd yn cynnwys noson ar 1 Tachwedd a fydd yn seiliedig ar y ddrama deledu boblogaidd o Ddenmarc, ‘The Killing’, gan gynnwys dau o’r enwau mwyaf sy’n ysgrifennu amdani: y nofelydd ditectif a hanes David Hewson, a’r actores, yr awdures a’r gyflwynwraig deledu Emma Kennedy, awdures ‘The Killing Handbook’.

Cynhelir Diwrnod Doctor Who ddydd Sadwrn 2 Tachwedd lle, er mwyn dathlu hanner canmlwyddiant y Doctor, bydd arbenigwyr y rhaglen wrth law i drafod hanes a dyfodol y rhaglen. Mae gweithdy celf i blant, panel awduron ac ymweliad gan y Daleks hefyd wedi cael eu trefnu. Bydd Louise Jameson, un o gyd-deithwyr y Doctor gynt, ymhlith y gwesteion arbennig.

Yna bydd podlediad Football Weekly papur newydd The Guardian yn mynd ar daith i Ganolfan Dylan Thomas ddydd Llun, 4 Tachwedd. Bydd y gohebwyr pêl-droed nodedig, James Richardson a Barry Glendenning, ymhlith yr arbenigwyr a fydd yn trafod gêm y diwrnod blaenorol rhwng yr Elyrch a Dinas Caerdydd a bydd cyfle i ymwelwyr ofyn cwestiynau i’r panel.

Meddai’r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, “Bydd Gwyl Dylan Thomas eleni yn arbennig o gyffrous wrth i ni nesáu at ganmlwyddiant ei enedigaeth y flwyddyn nesaf.

“Mae’r cyfuniad o ohebwyr pêl-droed enwog, nofelwyr o safon ryngwladol a beirdd hynod lewyrchus ynghyd â digwyddiadau sy’n seiliedig ar raglenni anhygoel o boblogaidd megis Doctor Who a The Killing yn golygu y bydd rhywbeth i apelio at bob oed a diddordeb.

“Mae Gwyl Dylan Thomas yn atgyfnerthu ein henw da am ragoriaeth ddiwylliannol ar adeg pan fo Bae Abertawe ar y rhestr fer i fod yn Ddinas Diwylliant 2007 y DU.”

Bydd yr wyl hefyd yn cynnwys taith dywys o gwmpas rhannau o Abertawe sy’n gysylltiedig â Dylan o 11am ac 1pm ddydd Sul 3 Tachwedd. Bydd Cwmni Theatr Fluellen wrth law gyda thaith a fydd yn cynnwys Sgwâr Dylan Thomas, The Three Lamps, safle’r Kardomah, Sgwâr y Castell a’r No Sign Bar.

Hefyd cynhelir noson o ddarlleniadau Dylan Thomas a gaiff ei chyflwyno gan The Garage Players yn ei dafarn leol, Tafarn Uplands, nos Iau 7 Tachwedd am 8pm.

Ewch i www.dylanthomas.com am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 463980.