fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Mae hoff leoedd Jo Joio yn Abertawe ar agor unwaith eto, ac mae Jo mor hapus mae ei chalon yn newid lliw.

Gallwch ddod o hyd i lun o Jo mewn 19 lleoliad ar draws y ddinas, yn gafael 4 calon, pob un mewn lliw gwahanol.

 

Yr Her…

Dilynwch Jo ar draws y ddinas, gan ymweld â phob atyniad i ddarganfod pa liw calon y mae hi’n gafael ynddi. Mae 4 calon i’w casglu a’u nodi.

Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r 4 lliw, llenwch y ffurflen isod am gyfle i ennill beic gwych, drwy garedigrwydd ein ffrindiau yn Cycle Solutions. Mae’r gystadleuaeth ar agor i blant 14 oed ac iau.

Ble gallwch ddod o hyd i Jo…..

Gallwch weld lluniau o Jo yn dal calonnau lliwgar yn y lleoliadau hyn:

  • Arddangosfa Dylan Thomas *
  • Amgueddfa Abertawe*
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau*
  • LC*
  • Oriel Gelf Glynn Vivian*
  • Marchnad Abertawe
  • Canolfan Siopa’r Cwadrant
  • Plantasia
  • Llyn Cychod Parc Singleton*
  • Llyfrgell Ganolog a llyfrgelloedd Clydach, Gorseinon, Cilâ a Threforys*
  • Parciau Cwmdoncyn, Brynmill a Victoria
  • Lido Blackpill
  • Gerddi Southend

Mae’n bosib y bydd rhaid cadw lle ymlaen llaw ar gyfer rhai lleoliadau, gwiriwch cyn ymweld.

*Mae cardiau mynediad hefyd ar gael. Gofynnwch wrth y dderbynfa.

Cofrestrwch ar-lein…

Ydych chi wedi dod o hyd i 4 calon lliw gwahanol o gwmpas ein lleoliadau? Llenwch y ffurflen isod am gyfle i ennill!

Amodau a thelerau

  • Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i gadw at yr amodau a’r telerau hyn.
  • Rhaid cyflwyno pob cais drwy ddefnyddio’r cerdyn cystadlu neu’r ffurflen gystadleuaeth ar y wefan.
  • Nid oes unrhyw ffi gystadlu/nid oes yn rhaid prynu unrhyw beth er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  • Mae’n rhaid bod yn 14 oed neu’n hŷn i gystadlu. Rhaid cael caniatâd rhieni er mwyn cystadlu.
  • Dim ond un cais y gellir ei gyflwyno fesul person ar gyfer y gystadleuaeth hon. Bydd y sawl sy’n cyflwyno mwy nag un cais yn cael ei wahardd o’r gystadleuaeth.
  • Nid yw gweithwyr Gwasanaethau Diwylliannol a Cycle Solutions Cyngor Abertawe na’u teuluoedd agos yn gymwys i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  • Y dyddiad cau yw 10pm nos Sul 5 Medi 2021.
  • Cyhoeddir enw’r enillydd ddydd Gwener 10 Medi a chysylltir â nhw’n uniongyrchol.
  • Bydd yr enw cyntaf a ddewisir yn ennill y wobr 1af sef beic i blentyn, a fydd yn addas ar gyfer taldra’r plentyn hwnnw.
  • Ni roddir arian na gwobr amgen yn lle’r wobr hon.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o’r holl geisiadau a dderbynnir.
  • Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe fydd yn dewis yr enillydd. Mae penderfyniad Cyngor Abertawe’n derfynol ac nid ymatebir i unrhyw ohebiaeth.
  • Mae gan Gyngor Abertawe’r hawl i gyhoeddi enw’r enillydd.
  • Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth rydych yn cytuno i ni ddefnyddio’ch enw cyntaf mewn gweithgaredd marchnata yn y dyfodol, ac yn caniatáu i ffotograffau gael eu tynnu a’u defnyddio at ddibenion cyhoeddusrwydd.
  • Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am hyn cyn y defnyddir yr wybodaeth hon.