Hoffech chi fwynhau gwefrau gwych yr haf hwn? Dewch i Fae Abertawe i gael awyr iach, milltiroedd o arfordir a’r golygfeydd gorau! Gallwch fod yn actif neu ymlacio. Dyma rai syniadau i’ch helpu i ddechrau…
Dim bwrdd syrffio? Dim problem! Cewch gip ar ein gweithredwyr lleol a all eich helpu a dangos i chi sut i’w wneud.
Ewch i Fae Rhosili, lle mae croeso i’ch hoff gi trwy gydol y flwyddyn!
Môr tawel, meddwl tawel. Chi a’r dŵr agored yn unig. Tawelwch.
Mae arfordiro mor hawdd â hynny (neu efallai nad yw’n hawdd)! Byddwch yn ddewr, ond cofiwch ddefnyddio gweithredwr lleol i’ch cadw’n ddiogel.
Byddwch fel Bear Grylls am ddiwrnod a dewiswch eich profiad crefft y goedwig eich hun. Adeiladwch loches, cyneuwch dân a choginiwch eich bwyd eich hun!
Darllenwch lyfr neu ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd hardd (mae digon ohonynt ar gael hefyd!). Tynnwch lun a tagiwch ni yn – @BaeAbertawe #HwylBaeAbertawe
Rydym yn mwynhau gwefrau gwych… ydych chi’n eu mwynhau?