fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more
BLOG | August 20, 2021

Dyma gynllun A a chynllun B - felly beth bynnag fo'r tywydd, rydym yn siŵr y byddwch yn dod o hyd i'ch #LleHapus!

Cynllun A ☀

Paciwch eich esgidiau cerdded ac ewch am y bryniau gyda’r merlod gwyllt ac aroglwch y grug (neu fel arall gwnewch yn fawr o’r arfordir – mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn ymlwybro o gwmpas baeau ysblennydd a chlogwyni creigiog ac yn cynnig golygfeydd ysblennydd o benrhyn Gŵyr.

Cerdded

Mae’r dŵr yn hyfryd yr adeg hon o’r flwyddyn – efallai nawr yw’r amser i chi roi cynnig ar syrffio, padlfyrddio neu gaiacio ar hyd yr arfordir. Ydych chi’n chwilio am brofiad llawn adrenalin? Yna bydd arfordiro yn siŵr o’ch plesio – neu beth am roi cynnig ar antur ddringo ar glogwyni penrhyn Gŵyr? Mae gennym yr arbenigwyr yma i sicrhau eich bod chi’n cael llawer o hwyl – yn ddiogel.

Gweithgareddau

Dewch i ailfyw ein gorffennol chwedlonol gyda thaith hudol o’n safleoedd hynafol a chysylltu â straeon am y llychlynwyr, y tylwyth teg a’r Brenin Arthur! Dywedir bod Castell Pennard wedi’i ddinistrio gan Frenhines y Tylwyth Teg, ar un adeg roedd Maen Ceti (Carreg Arthur) fegalithig yn garreg a daflwyd o esgid y Brenin Arthur, a’r Sweyne’s Howes yw safle claddu honedig y Brenin Llychlynnaidd, Sweyne!

Chwilio Chwedlau

Cynllun B ☂

Does dim angen i’r haul dywynnu er mwyn i’r teulu gael digonedd o hwyl dros y penwythnos! Mae Plantasia yn llawn planhigion trofannol ac anifeiliaid diddorol – peidiwch â cholli amser bwydo’r crocodeil caiman! Oes gennych egni i’w losgi? Parc trampolinau Limitless yw’r lle delfrydol ac felly hefyd yr LC – gyda pharc dŵr, wal ddringo ac ardal chwarae feddal a’r cyfan o dan yr un to!

Dan Do

Am rywbeth mwy hamddenol, ewch ar daith o gwmpas orielau Bae Abertawe. Mae gan y Glynn Vivian gasgliad gwych o artistiaid enwog o Gymru ac arddangosfeydd teithiol, mae’r Oriel Mission yn ffres a chyfoes ac mae gan Oriel Llwyau Caru’r Mwmbwls y casgliad mwyaf o lwyau caru wedi’u cerfio â llaw yn y DU.

Orielau

Ewch yn ôl i’r gorffennol yn un o’n hamgueddfeydd gwych – mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn defnyddio technoleg ryngweithiol i ddehongli treftadaeth ddiwydiannol a morwrol Cymru. Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth? Yna mae Bae Abertawe y 1940au yn mynd â chi’n ôl i Brydain adeg y rhyfel a gall peiriant amser Amgueddfa Abertawe fynd â chi yr holl ffordd i benrhyn Gŵyr cynhanesyddol.

Amgueddfeydd

Nid ydym am i chi golli munud o’ch penwythnos – felly pan fydd gennych gynllun, trefnwch eich atyniadau, gweithgareddau ac archebwch fwrdd ar gyfer bwyta mas cyn i chi deithio – gan fod llawer o leoedd bellach yn gofyn i chi drefnu cyn eich ymweliad.

Gweld Mwy

Nid ydym am i chi golli munud o’ch penwythnos – felly pan fydd gennych gynllun, trefnwch eich atyniadau, gweithgareddau ac archebwch fwrdd ar gyfer bwyta mas cyn i chi deithio – gan fod llawer o leoedd bellach yn gofyn i chi drefnu cyn eich ymweliad.

… a gallwch hefyd deithio am ddim ar fysus Bae Abertawe dros benwythnos Gŵyl y Banc!

Ceir rhagor o wybodaeth yma