fbpx

Ymunwch â ni ar Dachwedd 5ed wrth i ni ddychwelyd i San Helen ar gyfer arddangosfa tân gwyllt ar thema ‘Noson yn y Ffilmiau’ ysblennydd!

Gatiau’n agor am 5pm gyda chroeso cynnes ar thema ffilm gan Fand Pres Penclawdd. Bydd adloniant cyn y sioe yn dechrau am 5.30pm a bydd yn cynnwys perfformwyr disglair, atyniadau a pherfformiadau ar thema ffilmiau.

Bydd llawer o’ch hoff gymeriadau ffilm yn ymweld â ni gan gynnwys Barbie, Spider-Man, Batman a’i Batmobile, Wonder Woman ac arwyr Star Wars fel Boba Fett a Darth Vader. Cadwch lygad hefyd am rai o drigolion Parc Jwrasig!

Bydd arwr lleol Kev Johns yno fel prif gyflwynydd y tân gwyllt a bydd yna hefyd chwiloleuadau arddull Hollywood yn goleuo’r gorwel ar yr hyn sy’n siŵr o fod yn noson i’w gofio!

Am 7:00pm, byddwn yn goleuo’r awyr gydag arddangosfa tân gwyllt syfrdanol mewn pryd i gerddoriaeth o’r ffilmiau.

Tocynnau ar-lein ar gael tan ganol nos, nos Sadwrn 4 Tachwedd – yna bydd cyfle i dalu wrth y gât ar y diwrnod.

Bydd bwyd, diod a byrbrydau arddull theatr ffilm ar gael i’w prynu yn ystod y digwyddiad gan ddetholiad o werthwyr bwyd ar y safle.

Tocynnau yn dechrau o £2 yn unig:

Ar y Diwrnod
Oedolion £5
Plant / Consesiwn* £4
PIH** £3
Teulu (2 Oedolyn a hyd at 3 consesiwn) £15

*Plant 3 oed neu’n iau – am ddim

* Consesiwn: Plant dan 16 oed, dros 64 a myfyrwyr gyda cherdyn adnabod myfyriwr

** Bydd angen dangos cerdyn PIH ar y noson

Tocynnau ar-lein ar gael tan ganol nos, nos Sadwrn 4 Tachwedd – yna bydd cyfle i dalu wrth y gât ar y diwrnod.

Amodau a Thelerau

Amser Gweithgaredd
17:00 Band Pres Pen-clawdd
17:30 Croeso
17:35 Perfformiad gan Anna ac Elsa a sgwrs
17:45 Perfformiad dawns
18:00 Cerddoriaeth o’r ffilmiau
18:30 ‘Singing in the rain’ wedi’i pherfformio gan Mellin Theatre Arts
18:40 Perfformiad goleuedig
18:55 Cyfrif yn ôl i’r tân gwyllt
19:00 Tân gwyllt
19:20 Band Pres Pen-clawdd
20:00 Diwedd

*gall amserau newid

Hygyrchedd

Bydd man gwylio hygyrch â staff yn San Helen a fydd â’i doiled ei hun i’r anabl. (does dim angen cadw lle ymlaen llaw)

Bydd toiledau eraill i’r anabl hefyd ar gael ar y safle.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio am ddim i’r anabl ar gael ger Parc Victoria drwy’r fynedfa ar Francis Street.

Dangoswch eich bathodyn glas i gael mynediad i’r ardal hon.

Mae tocyn am ddim i ofalwyr ar gael wrth ddangos cerdyn Hynt a gallwch ei archebu ymlaen llaw drwy ffonio ein swyddfa docynnau ar: 01792 475715

Sylwer, er bod y tir yn San Helen yn wastad, mae’n cynnwys graean neu laswellt felly gall fod yn fwy heriol i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe Teithio a Pharcio

Cwestiynau Cyffredin am Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe


Cyngor Abertawe

Swansea Council

Date
05 Nov 2023
Venue
San Helen Abertawe
Price
2.00