fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Wedi’i gyflwyno gan Dŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia, sy’n cynnwys cerddorfa fyw â thros 30 o gerddorion.

Yn dilyn perfformiadau’r llynedd, lle gwerthwyd pob tocyn, mae ‘Tŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia’ yn dychwelyd am y daith flynyddol i’r DU gyda’i bale cynhyrchiad llawn cyfareddol.
135 o flynyddoedd yn ôl, clywodd cynulleidfaoedd Swan Lake gan Pyotr Ilyich Tchaikovsky, y cyfansoddwr enwog o Rwsia, am y tro cyntaf. O’r adeg honno, newidiodd bale am byth.
Mae Swan Lake yn adrodd stori Odette ac Odile, dwy fenyw ifanc sy’n edrych mor debyg i’w gilydd y mae’n hawdd eu cymysgu.

Chwedl gymhellol o ramant drasig lle mae tywysoges, Odette, yn cael ei throi’n alarch gan felltith ddieflig. Wrth hela, daw’r Tywysog Siegfried ar draws haid o elyrch. Ar ôl i un o’r elyrch droi’n fenyw ifanc brydferth mae’n cael ei swyno ar unwaith – a fydd ei gariad yn ddigon cryf i dorri’r felltith ddieflig sy’n effeithio arni.

O ysblander mawreddog neuadd ddawns y palas i’r llyn yng ngolau’r lleuad lle mae’r elyrch hardd yn llithro mewn ffurfiant perffaith, mae’r stori gyfareddol hon o ramant drasig yn cynnig popeth.
Yn fwy nag unrhyw fale arall, mae Swan Lake yn cyfleu’r holl emosiynau dynol – o obaith i anobaith, o ddychryn i dynerwch, o bruddglwyf i ecstasi.
Dyma noson hyfryd allan, gydag atgofion i’w trysori am amser maith ar ôl i’r llenni gwympo.

Date
12 Nov 2019
Venue
Swansea Grand Theatre