fbpx
Sign up to the Admiral Swansea Bay 10k!
Sunday 15 Sep

Mae Sweeney Entertainments yn cyflwyno…

Paratowch i gael eich syfrdanu gan sioe deyrnged Queen enwocaf y DU – Majesty, mewn sioe newydd sbon – The Break Free Tour!

Ymunwch â Freddie, Brian, Roger a John wrth iddyn nhw fynd â chi ar daith hudol gan berfformio The Best of Queen  wrth ddathlu cerddoriaeth a dawn arddangos hoff fand roc y DU.

O ddechreuad cynnar Queen gyda Bohemian Rhapsody i’w cyngherddau yn Stadiwm Wembley lle gwerthwyd pob tocyn, byddwch yn profi uchafbwyntiau eu perfformiadau cerddorol anhygoel wrth i chi ail-fyw’r awyrgylch gwefreiddiol yr oedd Queen wedi’i gyfleu dros eu gyrfa llwyddiannus.

Am dros 50 o flynyddoedd mae Queen wedi syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’u cyngherddau byw ardderchog, eu hanthemau enwog a’u cynyrchiadau syfrdanol ar raddfa enfawr.  Gydag 18 albwm rhif 1, 18 sengl rhif 1 a bron 300 miliwn o albymau wedi’u gwerthu, does dim syndod bod Queen yn cael eu cydnabod fel band roc gorau’r byd.

Bydd sioe The Best of Queen yn eich arwain ar daith drwy un o gyngherddau Queen yn ystod anterth y band.  Gyda seiniau a goleuadau eiconig ac yn cynnwys casgliad o ganeuon mwyaf poblogaidd Queen, bydd y sioe lwyfan hudol hon yn sicr o’ch syfrdanu!

Date
28 Jan 2022
Venue
Swansea Grand Theatre