fbpx
Sign up to the Admiral Swansea Bay 10k!
Sunday 15 Sep

And The Curse of The Ancient Custard Pie.

Gyda sêr comedi diweddaraf CBBC, Danny a Mick, a enwebwyd ar gyfer y comedi sefyllfa newydd gorau yng ngwobrau’r British Comedy Awards yn ddiweddar.

Mae Danny a Mick a’u tad Clive wedi penderfynu nad ydynt yn gwneud digon o arian o’u syrcas, felly maen nhw’n cael swyddi rhan-amser fel gwylwyr nos yn yr amgueddfa er mwyn cael dau benllinyn ynghyd. Ond, mae pethe’n mynd ar chwâl pan fyddant yn tarfu ar y deisen ŵy hynafol ac yn rhyddhau drychiolaeth slapstic. Maen nhw’n sylweddoli’n fuan nad ydynt ar eu pennau eu hunain pan ddaw’r amgueddfa’n fyw yng nghanol nos ac mae’n anhrefn llwyr!

Mae sioe eleni’n llawn actau comedi doniol, hud, anhrefn, slapstic a pherfformwyr arbenigol, gan ei gwneud yn sioe na ddylid ei cholli i’r teulu cyfan sy’n siŵr o wneud i chi chwerthin yn uchel !

Date
14 Apr 2022
Venue
Swansea Grand Theatre