fbpx

Mae Gŵyl Gerdded Gŵyr yn dychwelyd yn 2024, o ddydd Sadwrn 7fed i ddydd Sul 15 Medi, gyda naw diwrnod o dri deg o deithiau cerdded godidog! Bydd y rhaglen yn llawn dop o deithiau cerdded cyfarwydd a newydd ar gyfer pob diddordeb a gallu. Cofrestrwch ar gyfer y Cylchlythyr i gadw mewn cysylltiad â datblygiadau a chyfleoedd.

Wrth galon yr ŵyl eleni rydym yn dathlu dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru (LlAC). Mae ein penwythnos cyntaf yn cynnig cyfle i gerdded ar hyd rhan llawn Gŵyr o’r LlAC, o Benclawdd i’r Mwmbwls (dros ddeugain milltir), mewn dau ddiwrnod. Dros y naw diwrnod, bydd mwy na hanner ein teithiau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd, yn cynnwys cant o draethau ac un ar bymtheg o gestyll, a chysylltiadau o’r naill ben a’r llall â Chlawdd Offa, gan alluogi cerddwyr i fynd o amgylch perimedr cyfan Gymru.

Calendar
All events

07 Sep 2024 - 15 Sep 2023

Gŵyl Gerdded Gŵyr 2024

10:00am - 10:00am