fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

Dylan yn denu'r byd i Abertawe yn 2014


C 4th March 2014

Mae pobl o Tsieina, Awstria a’r Ffindir ymhlith y dorf ryngwladol sydd eisoes wedi ymweld ag arddangosfa barhaol Abertawe am Dylan Thomas hyd yn hyn eleni.

 

Mae’r llyfr ymwelwyr yn yr atyniad yn yr Ardal Forol yn dangos bod pobl o bedwar ban byd wedi bod yn heidio i Abertawe i ddysgu am gysylltiadau’r bardd â’r ddinas yn ystod y flwyddyn sy’n nodi canmlwyddiant ei eni.

 

Ers dechrau mis Ionawr mae nifer o bobl o America, Canada ac Iwerddon hefyd wedi teithio yma i weld Arddangosfa Dylan Thomas yng Nghanolfan Dylan Thomas. Bu hyd yn oed rhai o gefnogwyr Napoli yn ymweld â’r arddangosfa pan oedd eu tîm yn y ddinas i chwarae yn erbyn yr Elyrch yng Nghynghrair Europa yn Stadiwm Liberty.

 

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, gwelwyd ymwelwyr o bedwar ban byd gan gynnwys Brasil, Siapan, Seland Newydd, Awstralia, Hwngari, India, Slofacia a Beirut.

 

Mae’r arddangosfa’n cynnwys eitemau megis masg angau Dylan, drysau sied ysgrifennu’r bardd a rhai o’i siwtiau o 1953.

 

Meddai’r Cyng. Nick Bradley, Aelod y Cabinet dros Adfywio, “Mae cipolwg ar lyfr ymwelwyr Arddangosfa Dylan Thomas yn dangos etifeddiaeth barhaus Dylan a’i boblogrwydd byd-eang, ac rydym yn disgwyl croesawu llawer mwy o ymwelwyr o bell eleni o ganlyniad i’r holl ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu fel rhan o’r wyl trwy gydol y flwyddyn i nodi canmlwyddiant ei eni.

 

“Mae’r wyl yn dathlu mab enwocaf Abertawe a’r bobl a’r dirwedd a’i ysbrydolodd drwy bob math o ffurfiau a chyfryngau celf. Mae’r rhain yn cynnwys arddangosfa am yr Abertawe y byddai Dylan yn gyfarwydd â hi sydd bellach wedi agor yn Amgueddfa Abertawe, nifer o berfformiadau sy’n ymwneud â Dylan yn Theatr y Grand, llwybr llenyddol ar y glannau, cyfres jazz Dan y Wenallt yng Ngwyr, digwyddiadau mewn parciau, cystadlaethau llenyddol rhyngwladol a digwyddiadau chwaraeon.

 

“Rydym hefyd yn ymdrechu i farchnata Gwyl Dylan Thomas 2014 i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae nifer o’n cerbydau’n arddangos posteri Dylan 2014, mae baneri i fyny ar bontydd dros brif ffyrdd y ddinas ac mae miloedd o daflenni wedi cael eu dosbarthu ar draws de Cymru. Yr wyl yw canolbwynt gweithgarwch marchnata twristiaeth eleni hefyd gydag erthyglau yn llyfryn gwyliau Bae Abertawe ac mewn deunyddiau marchnata uniongyrchol.

 

Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi gwneud cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) am arian a allai olygu ailwampio’r arddangosfa barhaol a rhoi rhaglen addysg gymunedol ar waith. Os caiff y cais ei gymeradwyo, byddai ystafell yr arddangosfa barhaol, ystafell yr arddangosfa dros dro a’r ystafell addysg yn y ganolfan yn cael eu hailwampio erbyn Gwyl flynyddol Dylan Thomas a phen-blwydd y bardd ddiwedd mis Hydref.

Ewch i www.dylanthomas.com i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch Ganolfan Dylan Thomas ar 01792 463980.