Bae Abertawe yw’r prif leoliad ar gyfer anturiaethau. Yn ogystal â’r anturiaeth ‘glasurol’ sy’n llawn hwyl ac adrenalin, mae gennym ein brand unigryw ein hunain o anturiaethau, yn llawn diwylliant, arfordir, cefn gwlad, siopa, chwaraeon a phrofiadau ciniawa a fydd yn para am oes. Canfyddwch EICH anturiaeth berffaith CHI…
Anturiaethau Bwyd
Bwyd môr sydd newydd ddod oddi ar y cwch, bwytai ciniawa cain, hufen iâ o’r safon orau, danteithfwydydd lleol a thafarn hunanwasanaeth gyntaf a marchnad dan do fwyaf Cymru.
Anturiaethau Teulu
O anturiaethau arferol i rai unwaith mewn oes. Mae gennym ddigon o weithgareddau dan do ac awyr agored sy’n addas i’r teulu cyfan, gan gynnwys y rhai bach a mawr, y rhai anodd eu plesio a’r rhai sy’n teimlo’n ifanc!
Anturiaethau Cerdded
Dihangwch i’r wlad, encilio i fwthyn bach clyd a mwynhau gwyliau cerdded. Archwiliwch dros 400 milltir o hawliau tramwy ar draws cefn gwlad gogoneddus o bant a bryn a llwybr arfordir troellog.
Anturiaethau Chwaraeon Dŵr
O’r eithafol i’r rhai llawn hwyl, mae gennym ystod lawn o weithgareddau chwaraeon dŵr. Gallwch syrffio traethau byd-enwog Gŵyr, mynd ar daith mewn cwch, canŵio, hwylfyrddio a llawer, llawer mwy.
Gower – Area of Outstanding Natural Beauty
Gower was the first location in the UK to be designated an Area of Outstanding Natural Beauty in 1956. Famed for it’s award-winning beaches, dramatic coast, rolling downs, and traditional villages linked by small lanes. Adventures are guaranteed.
Eisiau Mwy?
Dyma ragflas yn unig o’r hyn sydd ar gael ym Mae Abertawe. Rydyn ni’n addo i chi, mae mwy i’w wneud (a mwy byth!).
Arhoswch gyda Ni
Oes awydd arnoch chi? Trowch eich anturiaeth yn benwythnos neu’n seibiant hir ac arhoswch gyda ni. Mae Bae Abertawe’n cynnig digonedd o opsiynau llety bendigedig ar gyfer pob chwaeth, poced ac angen, o fythynnod gwyliau i wersylla a gwestai.
Dolenni Defnyddiol ac Ysbrydoliaeth