fbpx

Ymunwch â’r digrifwr, y canwr, yr actor, y cyflwynydd a’r dynwaredwr poblogaidd, hynod dalentog ROB BRYDONam noson arbennig iawn o ganeuon gwych a chomedi hynod ddoniol!

Mae e’n fwyaf adnabyddus am raglenni teledu poblogaidd a hwyliog megis Gavin and Stacey ac Would I Lie to You, ond bydd Rob yn symud o’r byd teledu ac i’r llwyfan wrth iddo fynd â’i sioe newydd ‘Songs and Stories’ ar daith i gyfres o leoliadau agos atoch ar draws y DU. Bydd yng nghwmni band byw penigamp yn yr hyn sy’n addo bod yn noson fythgofiadwy o adrodd straeon a chân. Gallwch ddisgwyl caneuon gan Sondheim, Rodgers a Hammerstein, Paul Simon a Tom Waits.

Peidiwch â cholli’ch cyfle i fwynhau un o ddiddanwyr gorau Prydain yn gwneud yr hyn y mae’n ei wneud orau.

Date
07 Mar 2020
Venue
Swansea Grand Theatre