fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

5pm – late

Peli, Byrdis a BUNKERS!Brand golff gwallgof newydd ar gyfer oedolion sydd ar fin gwefreiddio’r DU

Mae brand golff gwallgof newydd ar gyfer oedolion ar fin gwefreiddio’r DU gyda’r lleoliad BUNKERS! cyntaf yn agor ei ddrysau yn Abertawe’r mis Rhagfyr hwn.

Prynnu yma

Gan gynnwys adloniant i oedolion, themâu eithafol a goleuadau trawiadol, BUNKERS! yw’r lleoliad perffaith ar gyfer hwyl haerllug gyda ffrindiau gyda choctels, bwyd a gweithgareddau gwych ar gael i greu awyrgylch bywiog.

Bydd y ffyrdd twyllodrus a’r cynllun gorffwyll yn siŵr o ddrysu cwsmeriaid, gan fydd pob twll ar y cyrsiau cyffrous yn gosod heriau arswydus gyda digon o bethau annisgwyl hefyd.

Mae’r perchennog, Adventure Leisure Limited, sy’n berchen ar 10 lleoliad golff antur Mr Mulligans sydd eisoes yn bodoli ac yn eu gweithredu, wedi cyhoeddi cynlluniau i sefydlu’r cysyniad bywiog newydd sy’n bennaf ar gyfer myfyrwyr ac oedolion, gyda nifer o leoliadau BUNKERS! newydd yn yr arfaeth i’w lansio ledled y DU dros y blynyddoedd nesaf.

I lansio BUNKERS! Abertawe mewn steil, cynhelir noson agoriadol VIP arbennig i fyfyrwyr nos Lun 27 Ionawr 2020 ac mae tocynnau ar gael o www.bunkersuk.com.

Bydd y noson barti epig hefyd yn cynnig cyfle gwych i ennill gwobrau anhygoel gan gynnwys gwyliau, iPad, aelodaeth campfa i fyfyrwyr, yn ogystal â thocyn blynyddol ar gyfer BUNKERS!, a fydd yn rhoi mynediad am ddim i’r enillydd am flwyddyn gyfan.

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad am ddim ar wefan BUNKERS! a bydd y gystadleuaeth yn cau ar 31 Rhagfyr. Caiff yr enillwyr eu dewis ar hap a’u cyhoeddi yn ystod y digwyddiad lansio VIP.

Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal Noson Lansio Loco ar 19 Rhagfyr i bobl lleol sy’n gallu cadw lle ar-lein a mwynhau gwydraid o Prosecco am ddim rhwng 5pm a 7pm gyda fisor am ddim, yn ogystal â’r cyfle i ennill tocyn blynyddol VIP ar gyfer BUNKERS! Abertawe.

“Rydym yn gyffrous iawn i lansio BUNKERS!,” meddai’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Datblygu, Andrew Scholey. “Rwy’n sicr y bydd y brand yn cynnig y cymysgedd perffaith o leoliad gwych ar gyfer noson mas â gemau cymdeithasol difyr a fydd yn creu profiad arbennig i’n gwesteion ac yn eu hannog nhw i ddychwelyd dro ar ôl tro.

“Mae Abertawe’n ddinas egnïol a bywiog sy’n golygu ei bod hi’n lleoliad perffaith ar gyfer lansio’n cysyniad newydd a dwi’n siŵr y bydd y lleoliad BUNKERS! cyntaf yn boblogaidd iawn.”

Bydd BUNKERS! yn Stryd y Gwynt Fach, Abertawe’n darparu ar gyfer myfyrwyr ac oedolion yn unig o 8pm yn ddyddiol gyda therfyn oedran 18 ar waith ond mae croeso i deuluoedd yn ystod y dydd.

Date
19 Dec 2019
Venue
Unit 18, Little Wind Street, Swansea SA1 1ED