Mae traeth pert a charegog Bae Pwll Du ar waelod dyffryn. Mae’n draeth ar gyfer y mwyaf anturus, gan fod mynediad yn gyfyngedig i 3 llwybr troed.
Gellir cyrraedd yno mewn car ac ar gludiant cyhoeddus yn Llandeilo Ferwallt neu Southgate gerllaw. Gallwch gyrraedd y traeth wrth gerdded ar hyd llwybr yr arfordir neu drwy Ddyffryn Llandeilo Ferwallt. Mae’r pellter rhwng y maes parcio a’r traeth dros 400m a gall gynnwys tir anodd neu arw (SA3 2HL).
Maes Parcio: Mae’r lle parcio agosaf yn Llandeilo Ferwallt neu Southgate (tua 400m). Gall y pellter rhwng y maes parcio a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.
Toiledau: Nac oes.
Lluniaeth: Nac oes.
Cludiant cyhoeddus: Oes, mae cludiant cyhoeddus ar gael ychydig bellter i ffwrdd yn Llandeilo Ferwallt neu Southgate (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir garw.
Cŵn: Caniateir cŵn drwy’r flwyddyn.
Mynediad i gadair olwyn: Nac oes.
Achubwyr Bywydau: Nac oes.
Mae Bae Pwll Du yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr ond does dim achubwr bywydau.