Triawd dawns sy’n mynd â chi o faes chwarae gwyllt, rhyfeddol i gymuned lofaol Gymreig mewn un noson. Ein hailgysylltu â’n theatrau, ein hunain a’n…Gilydd, Law yn Llaw.
Ludo gan Caroline Finn.
Dawns ddoniol a thywyll ag egni uchel am bwysigrwydd chwarae.
Fel oedolion, anaml y byddwn yn gwneud amser i chwarae, mae Ludo yn eich gwahodd i ailddarganfod llawenydd plentyndod a gwefr chwarae gemau.
Newidiwch eich swydd arferol am y bocs gwisgoedd a dianc i fyd llawn meysydd chwarae rhyfeddol a dychymyg gwyllt, di-ben-draw.
Codi gan Anthony Matsena
Mae Codi yn codi o’r lludw i’n hysbrydoli ni yn 2022 gyda stori bwerus, llawn egni, am gryfder cymunedau’n dod ynghyd i fynd i’r afael â chaledi bywyd yn ystod cyfnodau heriol.
Wedi’i adeiladu ar sylfeini straeon glofaol Cymru a adroddir drwy ddawns, cân, barddoniaeth a theatr, mae’r gynulleidfa wedi’i lapio mewn blanced o dywyllwch cyn cael ei harwain tuag at oleuni o obaith a dathlu.
A New Work gan Andrea Costanzo Martini
Dylech ddisgwyl dawns ddi-ofn a thrawiadol, yn llawn o hiwmor chwareus sy’n galw ein cyrff yn ôl i symud ac i fwynhau.
Yn gweithio yn y DU am y tro cyntaf, bydd Martini yn ein hailgyflwyno i’n llwyfannau yr ydym wedi gweld eu heisiau’n fawr, gan gynnig y theatr fel lle i ymgasglu, mynegi ein hunain a dathlu Ein Gilydd, Law yn Llaw.