“Cerddorfa jazz hollol ragorol”.
Mae’r Simon Spillet Big Band, a ddaeth i’r amlwg yn y byd jazz yn 2020, yn fand arbennig iawn – mae’n gerddorfa jazz llawn perfformwyr ardderchog sy’n uno rhai o unawdwyr a blaenwyr mwyaf medrus heddiw, sydd wedi dod ynghyd i ddathlu dawn gerddorol ysgubol artist o’r gorffennol, y sacsoffonydd rhagorol Tubby Hayes, un o hoff berfformwyr jazz y genedl.
Gyda rhestr o berfformwyr gwych a fydd yn perfformio dan arweiniad y sacsoffonydd tenor arobryn, Simon Spillet, mae datganiad cenhadaeth y band yn syml: ail-greu naws llawn cyffro Band Mawr Tubby Hayes o’r 1960au, a oedd yn creu twrw ym mhle bynnag yr oeddent yn perfformio. Ac nid yw’r band hwn yn wahanol – mae’n creu naws fythgofiadwy, mae ei gerddoriaeth yn cyfathrebu ar bob lefel ac mae ffraethineb craff enwog y blaenwr yn goron ar y cyfan.
Gan ddefnyddio repertoire o drefniannau Hayes ei hun, yr oedd llawer ohonynt erioed wedi’u rhyddhau ar record, yn ogystal â darnau gan ei gyfoedion, y trwmpedwr Jimmy Deuchar a’r pianydd Harry South, mae band Simon Spillet Big Band eisoes wedi profi’n hynod boblogaidd gyda’r rheini sydd wedi ei glywed. Gwnaeth perfformiad cyntaf erioed y band yn Llundain ym mis Hydref 2021, yn lleoliad enwog y 100 Club, ddenu torf enfawr o bobl a oedd yn awyddus i wylio’r band a ddisgrifiwyd gan un ysgrifennydd fel “y band mawr gorau sydd ar gael ar hyn o bryd”.
“Yr holl gynhwysion sydd eu hangen ar gyfer noson jazz o safon; caneuon gwych, chwaraewyr rhagorol a sioe sydd wedi’i llywio gan wybodaeth arbenigol. Dyma repertoire jazz sydd wedi’i ddewis a’i gyflwyno’n arbennig o dda.” London Jazz News