fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Cynhelir haf arall o chwaraeon o’r radd flaenaf yn Abertawe yn 2024, wrth i Gyfres Para Treiathlon y Byd 2024 ddychwelyd ar 22 Mehefin ac Ironman 70.3 Abertawe ar 14 Gorffennaf! Byddwn hefyd yn gweld dychweliad yr Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd, lle byddwn yn croesawu miloedd o athletwyr, cefnogwyr a gwylwyr!

Rhwng 8 a 14 Gorffennaf bydd yr Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd, a fydd yn cynnwys digwyddiadau Cymryd Rhan a Gwirfoddoli, yn rhoi’r cyfle i bobl gymryd rhan, yn ogystal â digwyddiadau gwych i wylwyr a oedd yn cynnig y cyfle i weld paradreiathletwyr o’r radd flaenaf yn cystadlu.

Ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf, bydd rhai o baradreiathletwyr gorau’r byd yn cyrraedd Abertawe i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas yng Nghyfres Para Treiathlon y Byd 2024.

A daw chwaraeon yr haf i ben gydag uchafbwynt ddydd Sul 14 Gorffennaf gydag Ironman 70.3 Abertawe, lle bydd miloedd o gystadleuwyr yn mynd ar hyd cwrs Abertawe gan arddangos ein dinas, ein bae a phenrhyn Gŵyr anhygoel. O gystadleuwyr proffesiynol sy’n cystadlu i ennill lle mewn prif ddigwyddiadau, i gystadleuwyr cyffredin sy’n herio’u hunain i gwblhau’r ras ddygnwch anhygoel hon, bydd miloedd o wylwyr, teulu a ffrindiau yno i’w cefnogi ar hyd y cwrs.