Bydd prosiect The World Reimagined yn trawsnewid strydoedd canol y ddinas gyda’i lwybr am ddim o gerfluniau glôb. Caiff pob un ei ddylunio gan artist unigol.
Diben y prosiect yw trawsnewid y ffordd rydym yn deall y Gaethfasnach Drawsatlantig a’i heffaith ar bob un ohonom.
Bydd y llwybr yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd â llwybrau mewn chwe dinas arall yn y DU, wrth i The World Reimagined wahodd pobl i gydnabod yr hanes hwn, a chefnogi gwaith gweithredwyr a sefydliadau cymunedol gwych.
Bydd y globau’n dod â phobl, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd i siarad am sut rydym yn deall ein hanes, sut mae ein gorffennol yn llunio ein dyfodol a sut gallwn weithredu dros newid cymdeithasol.
Roedd digwyddiad lansio 10 Awst yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a gallwch ddilyn y llwybr yn y lleoliadau canlynol hyd at 31 Hydref.
Dysgwch ragor am yr artistiaid yma. www.theworldreimagined.org/swansea
LLEOLIAD | THEMA | ARTIST | TEITL | NODDWR |
Oriel Gelf Glyn Vivian | Cymuned Abertawe | Kyle Legall | Upside-Down World | Sky |
Castell Abertawe | Y Fam Affrica | Mfikela Jean Samuel | Glory Of Mama Africa | Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe |
Canolfan Dylan Thomas | Y Realiti o Fod yn Gaethwas | Laura Bolton | Anchored In History (Glimmer Of Light) | Gwesty Morgans Abertawe |
Sgwâr Dylan Thomas | Etifeddiaeth wedi’i Dwyn: Adfywiad Cenedl | Abbi Bayliss | Bruised Showers | Prifysgol Abertawe |
Arena Abertawe | Dileu a Rhyddfreinio | GE | When Colours Collide | The World Reimagined |
Sgwâr Dewi Sant | Triongl Cymhleth | Hazel Blue | The Truth Will Out | BID Abertawe |
Canolfan Siopa’r Cwadrant | Adleisiau yn y Presennol | Joshua Donkor | Ancestral Foundations | Bloomberg |
Nelson Street | Codwn Eto Fyth | Joanna Cohn | The Butterfly Effect | Morganstone |
Princess Way | Ysbryd Ymledol | Carol Sorhaindo | Economic Biosphere | Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe |
Grove Place | Ailddychmygu’r Dyfodol | Parys Gardener | Her Stories | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant |