fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

Dewch i archwilio Bae Abertawe’r mis Medi hwn! Mae digonedd o gyfleoedd i ddarganfod gweithgareddau, digwyddiadau a llwybrau Abertawe!

The World Reimagined

Ewch i Abertawe cyn 31 Hydref er mwyn dilyn llwybr World Reimagined. Gallwch ddod o hyd i 10 cerflun glôb, pob un wedi’i ddylunio gan wahanol artist mewn lleoliadau amrywiol yng nghanol y ddinas.

Maent wedi’u creu fel rhan o brosiect The World Reimagined gyda’r nod o drawsnewid sut rydym yn deall y Gaethfasnach Drawsatlantig a’i heffaith ar bob un ohonom. Mae chwe dinas arall yn y DU yn cymryd rhan gyda globau sy’n unigryw iddyn nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr artistiaid yma a ble i ddod o hyd i’r globau yma.

Drysau Agored

Ar 10 Medi, bydd Castell Ystumllwynarth yn cymryd rhan yn y digwyddiad Drysau Agored blynyddol.

Mae Drysau Agored yn ddathliad blynyddol o bensaernïaeth a threftadaeth Cymru, gan roi cyfle unwaith y flwyddyn i ymweld â thirnodau enwocaf Abertawe ac mae am ddim!

Bydd teithiau tywys gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth. Digwyddiad am ddim, croesewir rhoddion.

Ras 10k Bae Abertawe Admiral

Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral, ddydd Sul 18 Medi. Mae lleoedd ychwanegol wedi’u rhyddhau ar gyfer 2022, felly mae amser o hyd i chi gadw lle ar y llinell gychwyn! Ac os nad ydych chi’n rhedeg, gallwch ddod i’r digwyddiad o hyd i gefnogi’r rhedwyr ar hyd y llwybr gwych. Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am ras 10k Bae Abertawe Admiral 2022 ar gael ar-lein.

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Dewch i joio amrywiaeth o weithgareddau a gynhelir o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ar gyfer pob oedran a gallu athletig. Rydym yn gobeithio’ch gweld chi’n fuan ar gyfer un o’n gweithgareddau y mis Medi hwn, ac os nad ydych eisoes yn gwneud, dilynwch ni ar Facebook a Twitter, a chofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio Chwaraeon ac Iechyd i fod y cyntaf i glywed ein newyddion a chael rhagor o wybodaeth amdanom

Glynn Vivian

Dewch i’r Glynn Vivian yr hydref hwn i ddarganfod ein harddangosfeydd a gweithgareddau newydd yn yr Oriel Gelf; Meddwl yn Wyrdd, The World We Live In, On Your Face x Glynn Vivian: Queer Reflections a The World Reimagined yw’r arddangosfeydd cyffrous sy’n barod i gael eu gweld ym mis Medi. Ydych chi’n edrych am weithdai dros y penwythnos? Mae tymor yr hydref yn dychwelyd gyda Chlwb Celf Dydd Sadwrn i blant a theuluoedd, dosbarthiadau bywluniadu a gweithdai i oedolion dros y penwythnos. Dewch i weld yr hyn sy’n cael ei gynnig, ewch ar-lein i weld y rhaglen lawn ac i drefnu’ch ymweliad am ddim heddiw.

Dewch i fwynhau Astudiaethau Natur yn Amgueddfa Abertawe

Mae diddordeb pobl yn natur yn glir i’w weld drwy’r amrywiaeth sydd ar gael yng nghasgliad astudiaethau natur Amgueddfa Abertawe. O blanhigion sych i lygod cochion wedi’u gwasgu, mae gan yr amgueddfa nifer sylweddol o fflora a ffawna, y mae detholid ohonynt yn cael ei arddangos ar hyn o bryd mewn arddangosfa sy’n archwilio’r ysgogiad i gasglu a chadw sbesimenau astudiaethau natur. Mae Amgueddfa Abertawe ar agor ddydd Mawrth i ddydd Sul, 10am – 4.30pm, ac mae mynediad am ddim.

Mae’r hwyl yn yr awyr agored yn parhau

Newyddion gwych, bydd Lido Blackpill yn aros ar agor am 11 Medi gyfnod hirach y tymor hwn i chi gael mwynhau nofio yn y tywydd mwyn a bydd Trên Bach Bae Abertawe‘n parhau i redeg ar benwythnosau am 25 Medi. Daliwch y trên a mwynhewch daith olygfaol yn ôl ac ymlaen ar hyd y prom, gallwch fynd ar y trên a dod i lawr oddi arno gynifer o weithiau ag y dymunwch gydag un tocyn! Mae Gerddi Southend a Llyn Cychod Singleton ar agor ac yna bob penwythnos tan 25 Medi!

Canolfan Dylan Thomas

Os ydych yn dwlu ar lenyddiaeth, yn frwd dros Dylan Thomas neu’n awyddus i ddysgu mwy am y dyn carismatig hwn, gallwch ddarganfod sut daeth yr eicon llenyddol hwn yn arwr ym myd diwylliant yma. Mae llawer o arddangosfeydd ardderchog ar gael y mis Medi hwn – llwybr Anifeiliaid Dylan i blant, arddangosfa Dwlu ar y Geiriau ac amrywiaeth o weithgareddau hunanarweiniedig! Ar agor rhwng 10am a 4.30pm o ddydd Mercher i ddydd Sul. Mynediad am ddim.