fbpx

Dewch i wylio pâr o gariadon anlwcus yn dawnsio o dan yr uchelwydd wrth i gerddorion arobryn o Iwerddon gyfeilio i ddawnswyr Gwyddelig gorau’r byd, i gyflwyno perfformiad twymgalon a fydd yn gwneud i’ch traed ddawnsio, eich llygad ddisgleirio a’ch enaid ysu am ragor!

Mae A Celtic Christmas sy’n cynnwys cymysgedd trawiadol o ganeuon traddodiadol, baledi teimladwy a’ch hoff garolau, yn cyfuno rhythmau bywiog â thalentau anhygoel ar gyfer noson fythgofiadwy o adrodd straeon, swyn Gwyddelig ac adloniant ysblennydd.

Mae A Celtic Christmas sydd wedi’i choreograffu a’i chynhyrchu gan Ceili Moore, Pencampwr Cenedlaethol a seren Gaelforce Dance & Rhythms of Ireland, a Brent Pace, Pencampwr y Byd a phrif unawdydd Lord of the Dance, yn sioe ddisglair a thrawiadol na ddylech ei cholli’r Nadolig hwn!

Prynwch eich tocynnau nawr cyn i chi golli’ch cyfle.

Tocynnau: £24.40 & £28.90 (VIP) £41.90

Date
20 Dec 2022
Venue
Brangwyn Hall
Price
26.90