fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Taith ‘Hits, Jazz & Blues’.

Ystyrir The Manfreds yn un o’r bandiau gorau ac uchaf eu parch o gyfnod y 60au, ac nid caneuon ‘pop’ yn unig oedd eu caneuon. Roedd llawer ohonynt wedi’u seilio ar R&B gydag islif o jazz – cyfuniad anarferol iawn ond llwyddiannus o arddull a sylwedd chwarae.

O ganlyniad, mae ansawdd diamser i’w recordiau, a bron 60 mlynedd ers hynny, bydd The Manfreds, gyda’r prif ganwr Paul Jones, yn perfformio llawer o’u caneuon llwyddiannus gan gynnwys ‘Do Wah Diddy Diddy’, un o’r caneuon mwyaf poblogaidd ac adnabyddus o’r 60au, sy’n dal i foddio cynulleidfaoedd yn eu cyngherddau, ynghyd â chymysgedd of ganeuon jazz a’r blws o’u halbymau unigol.

Bydd Paul Jones, gyda’i sain harmonica unigryw, yng nghwmni Tom McGuinness ar y gitâr, Rob Townsend ar y drymiau, Mike Gorman sy’n canu’r allweddellau, Marcus Cliffe ar y gitâr fas a Simon Currie sy’n canu’r sacsoffon/ffliwt.

Date
07 Oct 2022
Venue
Swansea Grand Theatre
Price
30.00