fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

10.00am – 6.00pm, Clwb Chwaraeon De Penrhyn Gŵyr, 13 Salisbury Close, Scurlage, Reynoldston, Abertawe SA3 1AZ

Mae ‘Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr’ yn dogfennu ac yn dathlu treftadaeth ffermio leol gan edrych ar heriau a llwyddiannau gweithio ar y tir a sut mae arferion ffermio wedi newid dros y blynyddoedd, gan gysylltu â gwasanaethau cefnogi penodol i’r rheini sydd efallai’n cael anhawster, a hynny’n dawel bach, er mwyn cryfhau, cefnogi a chreu Abertawe wledig gadarn y mae ei hiechyd a’i lles yn gwella.

Mae’r arddangosfa a gomisiynwyd, gyda delweddau a sain gan y gwneuthurwr rhaglenni dogfen, Florence Browne, a’r ffotograffydd, Callum Baker yn ceisio ymhelaethu ar leisiau a phrofiadau ffermwyr yn Abertawe wledig. Drwy’r arddangosfa hon, y gobaith yw y bydd yn creu pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr amaethyddol sy’n cael trafferth gyda rhai o’r materion yr edrychwyd arnynt, ac yn rhoi cipolwg i’r cyhoedd ar fywydau’r rheini sy’n bwydo’r wlad.

Mae ystod o adnoddau wedi’u datblygu i helpu i gefnogi’r rheini sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael, er enghraifft, y Cyfeiriadur Iechyd Meddwl a Lles, y gellir ei gyrchu yn https://www.abertawe.gov.uk/RhDGiechydmeddwl.

Mae Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yn gweinyddu llinyn LEADER y Rhaglen Datblygu Gwledig. Mae’r rhaglen yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen LEADER yn cefnogi prosiectau arloesol a arweinir gan y gymuned mewn wyth ward wledig yn Abertawe – Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Pen-clawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr. Mae’r rhaglen wedi’i hymestyn i 2023

Date
26-27 Oct
Venue
Clwb Chwaraeon De Penrhyn Gŵyr