fbpx
Sign up to the Admiral Swansea Bay 10k!
Sunday 15 Sep

10.00am – 4.30pm, Dydd Mawrth – Dydd Iau, Amgueddfa Abertawe, Victoria Road, Ardal Forol, Abertawe SA1 1SN

“Mae “Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr” yn dogfennu ac yn dathlu treftadaeth ffermio leol gan edrych ar heriau a llwyddiannau gweithio ar y tir a sut mae arferion ffermio wedi newid dros y blynyddoedd, gan gysylltu â gwasanaethau cefnogi penodol i’r rheini sydd efallai’n cael anhawster, a hynny’n dawel bach, er mwyn cryfhau, cefnogi a chreu Abertawe wledig gadarn y mae ei hiechyd a’i lles yn gwella.

Mae’r arddangosfa a gomisiynwyd, gyda delweddau a sain gan y gwneuthurwr rhaglenni dogfen, Florence Browne, a’r ffotograffydd, Callum Baker yn ceisio ymhelaethu ar leisiau a phrofiadau ffermwyr yn Abertawe wledig. Drwy’r arddangosfa hon, y gobaith yw y bydd yn creu pwynt cyswllt ar gyfer gweithwyr amaethyddol sy’n cael trafferth gyda rhai o’r materion yr edrychwyd arnynt, ac yn rhoi cipolwg i’r cyhoedd ar fywydau’r rheini sy’n bwydo’r wlad.

Mae ystod o adnoddau wedi’u datblygu i helpu i gefnogi’r rheini sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael, er enghraifft, y Cyfeiriadur Iechyd Meddwl a Lles, y gellir ei gyrchu yn https://www.abertawe.gov.uk/RhDGiechydmeddwl.

Mae Partneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yn gweinyddu llinyn LEADER y Rhaglen Datblygu Gwledig. Mae’r rhaglen yn rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen LEADER yn cefnogi prosiectau arloesol a arweinir gan y gymuned mewn wyth ward wledig yn Abertawe – Mawr, Llangyfelach, Pontarddulais, Penclawdd, Fairwood, Llandeilo Ferwallt, Pennard a Gŵyr. Mae’r rhaglen wedi’i hymestyn i 2023.

Farmers milking cows

Date
22 Nov 2022 - 29 Jan 2023
Venue
Amgueddfa Abertawe