fbpx
Swansea International Jazz Festival 2024
15 - 17 June

Mae rhywbeth i bawb yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe’r mis Rhagfyr hwn gyda phentref Alpaidd clyd, sglefrio iâ a ffair hwyl draddodiadol. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut i ddathlu tymor y Nadolig gyda ffrindiau a theulu!

Pentref Alpaidd

Gallwch wrando ar gerddoriaeth fyw gan artistiaid lleol a mwynhau bwyd a diod flasus, o siocled poeth a gwin y gaeaf i seidr oer, ffres. Mae’r Pentref Alpaidd yn cynnig hwyl yr ŵyl i deuluoedd, cyplau a myfyrwyr!

Darllen Mwy

Gweithgareddau

Unwaith y byddwch wedi twymo, beth am fynd i sglefrio ar hyd y llwybr iâ awyr agored 120m sy’n gwau drwy goed y parc. Gallwch weld y golygfeydd gwych o’r Olwyn Fawr, a beth am roi cynnig ar ennill gwobr yn y ffair? Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau llawn hwyl yr ŵyl ac ni ddylech ei cholli’r Nadolig hwn!

Archebwch docynnau sglefrio iâ yma