fbpx

Mae’r sioe ysgubol lwyddiannusSpirit of the Dance sy’n enwog yn rhyngwladol, yn dathlu 25 o flynyddoedd fel un o’r sioeau dawns mwyaf poblogaidd erioed.

Mae’r strafagansa egnïol hon, sydd wedi cael ei gweld gan fwy na 20 miliwn o bobl ar draws y byd, yn cynnwys cymysgedd gwefreiddiol o ddawns Wyddelig a mathau gwahanol o ddawns o bedwar ban byd sydd wedi’u coreograffu’n arbennig ar gyfer y sioe hon, gan gynnwys fflamenco, salsa, dawnsio stryd, hip hop, can-can a dawnsio tap Americanaidd.

Mae’r sioe hon, sy’n wreiddiol o Iwerddon, yn llawn egni ac mae’r dawnswyr gwefreiddiol yn swnio fel trên ar ras a bydd eu sgiliau syfrdanol a’u manylder yn gyrru ias i lawr eich cefn. Ni fydd un esgid ddawns Wyddelig yn anghyson wrth i draed taranllyd y dawnswyr berfformio fel un, gyda pherfformiad mor gyffrous y bydd y gynulleidfa ar ymyl eu seddi ac yn ymbil am fwy. Gyda churo dwylo byddarol a chynulleidfaoedd yn codi i’w traed ym mhob man, Spirit of the Dance yw un o’r sioeau dawns gorau erioed.

Date
07 Feb 2023
Venue
Swansea Grand Theatre
Price
31