fbpx

Yn dilyn ei thaith hynod lwyddiannus yn 2022, mae Bronwen yn ôl gyda ‘More From The Living Room’. Bydd Bronwen yn perfformio detholiad o’i hoff ganeuon, wedi’u plethu â straeon a gaiff eu hadrodd mewn ffordd hyfryd, gan ail-greu hud ei chyngherddau rhithwir yn fyw ar lwyfan. Mae’n addo bod yn noson o adloniant byw na ddylid ei cholli.

Mae’r aml-offerynwraig a seren Tik-Tok yn perfformio repertoire amrywiol gan gynnwys detholiad newydd o’i chaneuon gwreiddiol. Gan gyflwyno’i dull unigryw o gyfuno’r Gymraeg â chaneuon poblogaidd, bydd Bronwen yn perfformio’i hail-fersiynau ei hun, sy’n amrywio o glasuron Cymreig traddodiadol i ganeuon ysgubol heddiw.

Mae gan y gantores-gyfansoddwraig Gymreig steil hyfryd a chynnes sy’n eistedd rhywle rhwng canu gwlad, pop, gwerin a’r blŵs. Mae’n falch o’i dwyieithrwydd a derbyniodd glod rhyngwladol yn ystod ei hamser ar ‘The Voice’ y BBC pan lwyddodd i dynnu dagrau o lygaid Tom Jones. Chwaraeodd Bronwen ran yn y ffilm ‘Pride’ a enillodd wobr BAFTA, a hi hefyd oedd yn canu’r arwyddgan sef ‘Bread and Roses’.

Peidiwch â cholli’r cyfle i’w gweld! Archebwch nawr i fod yn rhan o daith ‘More From Living Room’ Bronwen Lewis!

Date
18 Feb 2023
Venue
Swansea Grand Theatre
Price
24