fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Theatr Dylan Thomas, yr Ardal Forol

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn cyflwyno Iain Mackenzie gyda Thriawd Dave Cottle.

Mae Iain Mackenzie yn un o gantorion jazz, lolfa a band mawr y mae’r galw mwyaf amdano yn y DU. Mae Iain yn perfformio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd a bandiau mawr o’r radd flaenaf, gan gynnwys rhai’r BBC ac RTE, ac ar hyn o bryd ef yw’r prif leisydd gwrywaidd ar gyfer Cerddorfa Jazz Ronnie Scott, a chanwr preswyl gyda Cherddorfa Ddawns Llundain yn The Ritz yn Piccadilly yn Llundain.

Mae’n enwog am ei gydweithrediadau gyda Club Des Belugas, Tape Five a JoJo Effect, ac mae Iain wedi cyd-gyfansoddi a recordio dros 50 o draciau gyda’r cewri hyn o Lounge, NuJazz ac Electro Swing, a chael dros 10 miliwn o wrandawiadau ar Spotify.

Mae llais Iain i’w glywed ar lawer iawn o gyhoeddusrwydd a hysbysebion ar y teledu, y radio ac ar-lein, gan gynnwys hysbyseb Nadolig 2020 Ralph Lauren. Mae wedi gweithio’n eang gyda grwpiau harmoni lleisiol gan gynnwys The London Vocal Project, Voxtet, The Magnets, The New London Jazz Voices a chydag arwyr y byd jazz, Kenny Wheeler ac Abdullah Ibrahim. Ymhlith yr artistiaid eraill y bu’n perfformio gyda nhw mae Sandie Shaw, Sophie Ellis Bextor, Susan Boyle, Joss Stone a Mica Paris.

Wrth berfformio’n rheolaidd yn Ronnie Scott’s, The Ritz a The Maine yn Mayfair, mae Iain hefyd yn teithio gyda Leo Green ar gyfer Sounds of the 60s Tony Blackburn, sioe fyw ar Radio 2 a chyda The BBC Big Band – The Music of James Bond… and Beyond!

Mae Triawd Dave Cottle gyda Dave (Piano), Paul Smith (Drymiau), ac Alun Vaughan (Bas) yn cyfeilio i Iain. Mae’r triawd hynod fedrus ac amryddawn hwn wedi gweithio gyda channoedd o gerddorion jazz rhyngwladol dros nifer o flynyddoedd fel y band tŷ yng Nghlwb Jazz Abertawe.

Cyflwynir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Chlwb Jazz Abertawe.

Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio. 5% ffïoedd archebu.

Bydd gwerthiannau dros y ffôn ac ar-lein yn cau am 12pm dydd Sadwrn, bydd tocynnau ar gael o hyd wrth y drws os na werthwyd pob tocyn eisoes.

Date
18 Jun 2023
Venue
Dylan Thomas Theatre
Price
12.60