fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 May

Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn cyflwyno Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin

Bydd Daniel John Martin, un o feiolinwyr gorau ei genhedlaeth, yn teithio o Baris i ymuno â rhai o gerddorion jazz sipsiwn gorau Llundain i gyflwyno prynhawn o Django Reinhardt, Stephane Grappelli a jazz manouche gwreiddiol o’r radd flaenaf!

Mae ei fedrusrwydd cyffrous ar y bwrdd cribell ynghyd â’i ddengarwch cynnes a’i garisma ar lwyfan yn gwarantu prynhawn bythgofiadwy.

Mae Daniel John Martin yn feiolinydd ac yn lleisydd Eingl-ffrengig byd-enwog. Ac yntau’n un o aelodau prysuraf a mwyaf gwerthfawr byd jazz Paris, fe fu am gryn amser yn feistr y ddefod mewn cyngherddau a sesiynau jamio jazz sipiwn yn “Aux Petits Joueurs”, lle gallwch glywed llawer o chwaraewyr jazz gorau’r byd, sy’n galw heibio’n ddi-daro i chwarae ambell ddarn.

Mae Daniel wedi gweithio ochr yn ochr â llawer o oreuon y byd jazz manouche gan gynnwys Angelo Debarre, Romane, Adrien Moignard a Boulou Ferré.

Ar ôl astudio yn y Conservatoire enwog ym Mharis a theithio a recordio gyda’r diweddar a’r enwog Didier Lockwood, mae wedi rhyddhau sawl albwm llwyddiannus, yn fwyaf diweddar “Parisian Impromptu”, gyda’i ffrind a’i gydweithiwr Mayo Hubert. Mae’r cydweithredu diweddar rhyngddo a chyn-gitarydd Miles Davis, Robben Ford wedi’i ganmol yn fawr!

“Mae Daniel John Martin, feiolinydd dwi wedi cael y pleser o weithio gydag ef ac wedi’i edmygu ers blynyddoedd, yn chwarae’r gerddoriaeth hon yn rhwydd a chydag egni”. – Robben Ford (cyn-gitarydd Miles Davis)

“Gyda Daniel John Martin, mae cytser Manouche yn tyfu.. ac mae’n seren o’r pwysigrwydd mwyaf” – Michael Bedin

“Perfformiwr unigryw a charismatig ac un o feiolinwyr ei genhedlaeth y mae’r mwyaf o alw amdano” – Le Quecumbar (Llundain)

Cyflwynir Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe gan Gyngor Abertawe ar y cyd â Chlwb Jazz Abertawe.

Archebwch docyn VIP i gael gostyngiad oddi ar holl ddigwyddiadau Gŵyl Jazz Abertawe; £90 ar gyfer y chwe chyngerdd, arbediad o £37, yn ogystal â seddi blaenoriaeth! Mae tocynnau VIP ar gael drwy swyddfa docynnau Theatr y Grand Abertawe, ffoniwch 01792 475715 neu galwch heibio. 5% ffïoedd archebu.

Bydd gwerthiannau dros y ffôn ac ar-lein yn cau am 12pm ar ddiwrnod pob sioe, bydd tocynnau ar gael o hyd wrth y drws os na werthwyd pob tocyn eisoes.

Date
17 Jun 2023
Venue
Dylan Thomas Theatre
Price
12.60