fbpx
Wales Airshow 6 & 7 July 2024
Find out more

Mae’r diwrnodau’n oleuach, mae’r blodau wedi agor ac rydym yn paratoi ar gyfer haf i’w joio!

Mae’n mynd i fod yn fis Mai llawn cerddoriaeth ym Mae Abertawe wrth i amrywiaeth o gyngherddau gael eu cynnal y mis hwn, yn ogystal â thair gŵyl banc! Beth fyddwch chi’n ei wneud gyda’r diwrnodau ychwanegol? Beth am fynd i’n Hatyniadau Awyr Agored sydd newydd agor, neu am bicnic yn un o’n parciau?
Darllenwch ymlaen am ysbrydoliaeth.

Cherddorfa Down for the Count

Dewch i brofi seiniau’r cyfnod swing gyda cherddorfa Down for the Count, sy’n dod i Gymru am y tro cyntaf erioed i berfformio yn Neuadd Brangwyn nos Fercher 3 Mai.

Mae Michael Bublé ei hun wedi dweud pa mor ardderchog yw’r gerddorfa 30 offeryn ac maent yn enwog am eu datganiadau meistrolgar o glasuron poblogaidd gan enwogion fel Frank Sinatra, Ella Fitzgerald, Nat ‘King’ Cole a Judy Garland.

Ymunwch â cherddorfa Down for the Count wrth iddynt ddod â’r cyfnod swing yn ôl yn fyw unwaith eto.

Mwy o wybodaeth

 

 

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC: Symphonic Dances

Deinamig, cyffrous a theatraidd!

Ymunwch â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn, Abertawe nos Wener 12 Mai am 7.30pm am gyngerdd fythgofiadwy.

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio gyda’r arweinydd o Efrog Newydd, James Feddeck, a’r pianydd Rwmanaidd arobryn, Daniel Ciobanu, sy’n sicr o ddod yn enwog iawn ym myd cerddoriaeth gerddorfaol.

Gyda cherddoriaeth gan Rachmaninov, Tchaikovsky a’r cyfansoddwr o Loegr, Anna Clyne, mae’n addo bod yn gyngerdd fywiog a difyr sy’n addas i bawb sy’n dwlu ar gerddoriaeth!

Defnyddiwch y côd NOWYOU i gael tocynnau arbennig am £7. Pris tocyn i fyfyrwyr a’r rheini dan 26 oed yw £5.

Mwy o wybodaeth

Digwyddiadau Neuadd Brangwyn

Mwynhewch fis o gerddoriaeth y mis Mai yma yn y Brangwyn. Bydd y mis yn dechrau gyda datganiad organ amser cinio am ddim gyda Nigel Davies ar 2 Mai, a’r noson ganlynol bydd cerddorfa 30 offeryn Down for the Count yn chwarae clasuron diamser o The Great American Songbook yn nigwyddiad Voices of Swing. Fe’i disgrifiwyd gan Michael Bublé fel perfformiad ‘anhygoel”, a gallwch ddisgwyl clywed clasuron fel I’ve Got You Under My Skin a S’Wonderful.

Bydd y rheini sy’n dwlu ar y Thin White Duke a Ziggy Stardust wrth eu boddau yn nigwyddiad Bowie by Candlelight ar 5 Mai, gyda ‘David Live’, Sioe Deyrnged David Bowie. Mae awyrgylch unigryw yn cael ei greu gan gannoedd o ganhwyllau yn lleoliad hardd Neuadd Brangwyn, felly dewch i ddawnsio.

Mae’r gerddoriaeth yn parhau ar 12 Mai gyda Dawnsiau Symffonig Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, noson sy’n cynnwys Masquerade gan Anna Clyne (darn a gomisiynwyd i agor noson olaf y Proms 2013), Concerto Piano Rhif 1 Tchaikovsky a Dawnsiau Symffonig Rachmaninov. Bydd y pianydd hynod dalentog, Daniel Ciobanu, yn dychwelyd i CGG y BBC oherwydd galw mawr ac mae’r digwyddiad yn addo bod yn noson theatrig, fywiog a deinamig.

Mwy o wybodaeth

Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2023

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn ôl gyda rhestr arall o gerddorion enwog, gan ddod â sain cŵl jazz i’r ddinas o ddydd Iau, 15 Mehefin i ddydd Llun, 19 Mehefin.
Rydyn ni’n trefnu digonedd o gerddoriaeth jazz wych ar gyfer y penwythnos hwnnw gyda rhai o’r talentau lleol a rhyngwladol gorau yn perfformio mewn chwe chyngerdd:
• HOOP
• Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle
• Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin
• The Coalminers
• Iain MacKenzie
• HHH – Mo Pleasure
Ac… os nad yw hynny’n ddigon o jazz i’ch diddanu, bydd hefyd weithdy i gerddorion ifanc, cyngerdd yn y prynhawn ar y Copper Jack, a rhaglen grwydro lawn o gigs am ddim – cyhoeddir y manylion llawn yn fuan.
Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe mewn partneriaeth â Chlwb Jazz Abertawe.

Mwy o wybodaeth

Sioe Awyr Cymru

Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd, Sioe Awyr Cymru, yn dychwelyd ar 1-2 Gorffennaf, a bydd yn cynnwys arddangosiadau awyr cyffrous dros Fae Abertawe. Cadarnhawyd y bydd y Red Arrows, Tîm Arddangos Typhoon, Hediad Coffa Brwydr Prydain a Thîm Raven yn ymddangos yn ystod y penwythnos. Ond ni fydd y cyffro yn yr awyr yn unig, bydd digon o adloniant ar y ddaear hefyd gan gynnwys atgynhyrchiad o awyrennau, arddangosfeydd milwrol rhyngweithiol, ffair bleser a cherddoriaeth fyw trwy gydol y penwythnos.

Mwy o wybodaeth

Theatr Awyr Agored

Mae’r Theatr Awyr Agored yn dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth yr haf hwn, a’i noddwr swyddogol yw holidaycottages.co.uk.

Gallwch ddewis o ddau berfformiad, pa un fyddwch chi’n ei ddewis? …

Mae’r Theatr Awyr Agored yn croesawu Twelfth Night gan Shakespeare, nos Fercher 9 Awst am 7.30pm a heb anghofio Peter Rabbit, on o ffefrynnau’r teulu sy’n berffaith ar gyfer hwyl yn ystod gwyliau’r haf, ddydd Iau 10 Awst am 2pm. Archebwch eich tocynnau heddiw!

Mwy o wybodaeth

10k Bae Abertawe Admiral – Ewch amdani!

Medal ddisglair, crys T i’w wisgo gyda balchder neu’r teimlad gwych pan rydych chi’n croesi’r llinell derfyn.
Dyma rai yn unig o’r rhesymau pam mae miloedd o bobl yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn.

Gydag e-byst misol yn darparu argymhellion hyfforddi gwych, a digon o wylwyr i’ch cefnogi ar y diwrnod, byddwch yn cael eich cefnogi o’r eiliad rydych chi’n cofrestru.

Felly, p’un a ydych am gael rhywbeth i hyfforddi ar ei gyfer, eisiau rhedeg ar ran eich elusen ddewisol neu’n ceisio curo’ch amser gorau, sicrhewch taw 2023 yw’r flwyddyn rydych chi’n rhoi cynnig ar 10k Bae Abertawe Admiral.

Edrychwn ymlaen at eich cefnogi!

Myw o wybodaeth

Chwaraeon

Bydd Abertawe yn cynnal wythnos arall o chwaraeon o’r radd flaenaf yn haf 2023 gyda Chyfres Para Treiathlon y Byd yn dychwelyd ar 15 Gorffennaf ac IRONMAN 70.3 Abertawe ar 16 Gorffennaf. Bydd yr Ŵyl Parachwaraeon wythnos o hyd hefyd yn dychwelyd rhwng 10 ac 16 Gorffennaf.

Rydym am i bawb fwynhau’r digwyddiadau hyn ac felly, er mwyn hwyluso’r digwyddiad hwn yn ddiogel bydd nifer o drefniadau cau ffyrdd, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio ar waith ar gyfer digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe. Gellir gweld yr holl fanylion yma

Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i gefnogi’r athletwyr a phob lwc i’r rheini sy’n cymryd rhan.

Mwy o wybodaeth

Atyniadau Awyr Agored

Ydych chi wedi llwyddo i ymweld ag un o’n hatyniadau awyr agored gwych eto?
Mae llawer i ddewis ohonynt – gallech fynd ar bedalo ym Mharc Singleton – alarch neu ddraig, chi’n sy’n dewis – rhowch gynnig ar gêm o golff gwallgof tra byddwch yn y parc neu yng Ngerddi Southend yn y Mwmbwls.
Neu os ydych am gael hwyl gyda dŵr, mae Lido Blackpill ar agor yn awr gyda’i bwll padlo a’i nodweddion dŵr.
Cofiwch hefyd y gallwch gael reid hynod olygfaol ar hyd y prom ar Drên Bach Bae Abertawe!

Mwy o wybodaeth

Castell Ystumllwynarth

Camwch yn ôl mewn amser yng Nghastell Ystumllwynarth.

Teithiwch yn ôl mewn amser y mis Mai hwn gydag ymweliad â Chastell Ystumllwynarth. Dilynwch ôl troed brenhinoedd, marchogion a boneddigion canoloesol. Cerddwch ar hyd rhagfuriau’r castell a darganfyddwch sut cafodd ei amddiffyn.

Archwiliwch gapel yr Arglwyddes Alina i weld olion paentiadau o’r 14eg ganrif. Ar agor yn ddyddiol o 1 Ebrill i 30 Medi, 11am – 5pm.

Mwy o wybodaeth

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Helpu i greu dinas iachach a mwy actif!

Byddwch yn barod ar gyfer mis Mai gyda Chwaraeon ac Iechyd. Rydym yn cynnig gweithgareddau chwaraeon a gweithgarwch corfforol hwyl yn y gymuned leol, gan annog pobl o bob oedran a gallu i fod yn actif, gwneud ffrindiau newydd a dysgu sgiliau newydd.

P’un a ydynt yn sesiynau gweithgarwch o Pilates i T’ai Chi, teithiau cerdded a gweithgareddau awyr agored ar eich pen eich hunain neu dan arweiniad hyfforddwr, mae gennym rywbeth i chi a’ch teulu y mis hwn.

Mwy o wybodaeth