fbpx
All aboard for a fun-filled musical ocean adventure
Sat 1 June

Dydd Gwener 11 Awst, 1pm – 4pm

Yma yng Nghanolfan Dylan Thomas, rydyn ni’n dwlu ar gemau bwrdd! Yn y gweithdy hwn, byddwn yn gwneud gêm fwrdd teithio neu gêm gardiau yn ei blwch bach ei hun! Bydd gwahanol fathau o gemau i’w gwneud, gan gynnwys gêm baru syml, cardiau adrodd straeon, a gêm fwrdd fach lle byddwch chi’n penderfynu ar y rheolau! Hefyd, bydd yna lu o gemau bwrdd a gemau adrodd straeon i’w chwarae yn ein sied ysgrifennu.

Mae’r gweithdy hwn fwyaf addas i deuluoedd gyda phlant rhwng 5 a 15 oed, fodd bynnag mae croeso i bob oedran; efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan riant/warcheidwad ar blant bach er mwyn cwblhau’r gweithgaredd.

Mae ein holl weithdai wedi’u cynllunio gyda hygyrchedd mewn golwg; cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech drafod gofynion mynediad.

Mae lle i 35 o bobl yn ein man gweithdy. Os nad oes lle ar gael yn syth pan fyddwch yn cyrraedd, bydd llwybr a gweithgareddau i’w harchwilio yn ein harddangosfa.

Galw heibio, am ddim.

Date
11 Aug 2023
Venue
Dylan Thomas Centre
Phone
01792463980
Email
dylanthomas.lit@swansea.gov.uk
Visit website